Y blychau pleidleisio yn agor yn is-etholiad Gorton a Denton

Blwch pleidleisio

Mae’r blychau pleidleisio wedi agor yn etholaeth Gorton a Denton yng ngogledd orllewin Lloegr fore ddydd Iau. 

Daw’r is-etholiad ym Manceinion wedi i’r cyn Aelod Seneddol Llafur Andrew Gwynne benderfynu ymddiswyddo ar sail problemau meddygol. 

Roedd wedi bod yn y sedd fel AS annibynnol ers dechrau Chwefror y llynedd. 

Roedd yn arfer bod yn AS Llafur cyn iddo gael ei wahardd o'r blaid.

Fe fydd y blychau pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00. 

Bydd 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr is-etholiad ddydd Iau. 

Dyma restr lawn o'r ymgeiswyr: 

  • Sir Oink A-Lot, The Official Monster Raving Loony Party
  • Nick Buckley, Advance UK
  • Charlotte Cadden, Ceidwadwyr
  • Dan Clarke, Libertarian Party
  • Matt Goodwin, Reform UK
  • Sebastian Moore, Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol (Social Democratic Party)
  • Joseph O'Meachair, Rejoin EU
  • Jackie Pearcey, Democratiaid Rhyddfrydol
  • Hannah Spencer, Y Blaid Werdd
  • Angeliki Stogia, Y Blaid Lafur
  • Hugo Wils, Y Gynghrair Gomiwnyddol 
     

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.