Biliau ynni rhatach yn debygol wedi cyhoeddiad ganol wythnos
Mae disgwyl i aelwydydd gael gwybod ganol yr wythnos hon y bydd biliau ynni 7% yn is o fis Ebrill, wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig addo gostyngiad o £150 ar gyfartaledd.
Yn ôl y dyfalu diweddaraf, gallai'r rheoleiddiwr Ofgem ostwng y cap ar brisiau ynni £117 i £1,641 y flwyddyn ar gyfer aelwydydd sydd â dau fath o danwydd.
Mae disgwyl i hynny gael ei gadarnhau ddydd Mercher.
Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves fis Tachwedd y byddai £150 yn cael ei dorri ar gyfartaledd oddi ar filiau aelwydydd o fis Ebrill, drwy gael gwared â'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni a gafodd ei gyflwyno gan y Ceidwadwyr, pan roedden nhw'n llywodraethu.
Mae cwsmeriaid wedi cael rhybudd i beidio â disgwyl gostyngiad o £150 yn syth, ac y bydd maint yr aelwyd a'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn ffactor wrth benderfynu ar yr union swm.
Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i edrych am y wybodaeth ddiweddaraf gan eu cyflenwyr, ar ôl y cyhoeddiad ddydd Mercher.
Dywedodd Ned Hammond, dirprwy gyfarwyddwr polisi cwsmeriaid gydag Energy UK, sy'n cynrychioli cwmniau ynni: "Mewn cyfnod pan fo nifer o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, mae penderfyniad y llywodraeth i ddarparu gostyngiad sylweddol ar filiau ynni i'w groesawu yn fawr.
"Gyda'r arbediad yn £150 ar gyfer aelwyd ar gyfartaledd, mae'n bwysig nodi bod y gostyngiad yn seiliedig ar raddfa'r uned. Felly yn ddibynnol ar faint o ynni maen nhw'n ei ddefnyddio, bydd rhai aelwydydd yn derbyn gostygniad sy'n fwy na £150, ac eraill yn derbyn llai."
Yn ôl golygydd ynni cylchgrawn Which? Emily Seymour, gallai aelwydydd weld gostyngiad sylweddol yn eu biliau ynni fis Ebrill.
"Bydd hynny'n rhyddhad i filiynau o bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda phwysau costau byw," meddai.