Bil cymorth i farw: Gwleidyddion Cymru i bleidleisio yn y Senedd
Fe fydd gwleidyddion Cymru yn y Senedd yn pleidleisio ddydd Mawrth ar a ddylid pasio mesur i ganiatáu i rai oedolion sy'n dioddef o salwch terfynol yng Nghymru a Lloegr ddod â'u bywydau eu hunain i ben.
Fe fydd y 60 o aelodau yn pleidleisio er mwyn penderfynu a ddylai Llywodraeth y DU ddeddfu ar ran Senedd Cymru mewn cysylltiad â’r bil 'Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)'.
Gan fod iechyd yn fater datganoledig, ac oherwydd y byddai’r bil yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i Senedd Cymru gydsynio i unrhyw newidiadau a fyddai’n cael eu gwneud i’r gwasanaeth iechyd yma.
Ni fydd y gwleidyddion yn pleidleisio ar a ddylai derbyn cymorth i farw fod yn gyfreithlon ai peidio, ond yn hytrach fe fyddant yn penderfynu a ddylai gweinidogion Cymru allu gosod rheolau ar gyfer gwasanaethau cymorth i farw yng Nghymru.
Mae’n bosib y gallai’r hawl gyfreithiol i farw barhau i ddod mewn i rym yng Nghymru heb gymeradwyaeth Senedd Cymru, ond ni fyddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG.
Mae Jeremy Miles, ysgrifennydd iechyd Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y gallai darparwyr annibynnol "gael eu sefydlu yng Nghymru o ganlyniad i'r newid mewn cyfraith droseddol."
Penderfyniad San Steffan
Cafodd y bil cymorth ei farw ei wrthod fel cydsyniad pan bleidleisiodd y Senedd ar y mesur diwethaf, sef ym mis Hydref 2024.
Pe bai Senedd San Steffan yn cymeradwyo'r bil, fe fydd derbyn cymorth i farw yn dod yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, a hynny hyd yn oes os fydd aelodau'r Senedd yn pleidleisio yn ei erbyn ddydd Mawrth.
Mae hyn gan fod newidiadau i gyfraith hunanladdiad heb eu datganoli.
Ar hyn o bryd mae'r bil cymorth i farw a gafodd ei gyflwyno gan yr AS Llafur yn San Steffan, Kim Leadbeater yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mae Jeremy Miles yn dweud pe bai'r gyfraith yn cael ei phasio a bod gwleidyddion y Senedd yn ei gwrthod, yna fe fydd angen i Lywodraeth Cymru "weithio o fewn fframwaith sydd heb ei gymeradwyo gan y Senedd."
Daw ei sylwadau yn gynharach fis yma wrth i bwyllgor deddfwriaeth y Senedd ofyn wrth Lywodraeth Cymru i esbonio goblygiadau pleidlais ddydd Mawrth.
Dywedodd Miles y byddai'r canlyniad terfynol yn dibynnu "ar benderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan wleidyddion yn San Steffan" ac felly nad yw'n gallu datgan yn sicr yr union oblygiadau ar hyn o bryd.
Esboniodd mai "mater i lywodraeth nesaf Cymru ei ystyried" fyddai sut y byddai cymorth i farw yn gweithio yng Nghymru pe bai'r bil yn cael ei basio, gydag etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai.