Beth yw’r broses o ddewis Archdderwydd nesaf Cymru?
Eisteddfod y Garreg Las fydd yr un olaf i’r Archdderwydd Mererid Hopwood gan olygu bod angen cyhoeddi pwy fydd yr Archdderwydd newydd.
Mae 34 Archdderwydd wedi bod ers y cyntaf, Clwydfardd, yn 1888. Mae dau o’r pedwar diwethaf wedi bod yn fenywod, Christine James a Mererid Hopwood.
Bydd olynydd Mererid yn cael ei ddewis gan aelodau’r Orsedd, a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar faes y Brifwyl ddydd Iau, 6 Awst.
Bydd hynny’n digwydd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Orsedd ym Mhabell y Cymdeithasau.
Dywedodd Cofiadur Gorsedd y Beirdd a’r cyn-Archdderwydd, Christine James, wrth Newyddion S4C ei bod yn credu ei bod yn bwysig bod gan aelodau’r Orsedd lais wrth benodi Archdderwydd.
“Cyfnod unrhyw Archdderwydd yw tair blynedd, ac wedyn mae’n broses ddemocrataidd,” meddai.
“Mae aelodau’r Orsedd â hawl i enwebu Archdderwydd newydd, gyda’r amod bod yr Archdderwydd naill ai’n Brifardd neu’n Brif Lenor.
“Mae’r ffurflen enwebu yn cael ei dosbarthu; rhaid cael enwebydd ac eilydd, a phump o gefnogwyr.
“A dyna fe, mae’r alwad yn mynd mas at y Gorseddogion ac wedyn mae’r enwebiadau yn dod i mewn erbyn y dyddiad cau. Os bydd mwy nag un enwebiad dilys, rhaid mynd i etholiad.
“Yn fy marn i, mae’n bwysig bod yr aelodau yn cael llais yn y penodi.”
Mae dau Brifardd, Tudur Dylan Jones a Gerwyn Wiliams, yn cael eu hystyried gan yr aelodau.
Mae’r Athro Gerwyn Wiliams yn olygydd gyda Gwasg y Bwthyn ac fe enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a’r Cyffiniau yn 1994.
Mae hefyd wedi ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwywaith.
Wedi’i fagu yn Llangefni a’r Trallwng, mae’n gyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Tudur Dylan Jones wedi ennill sawl gwobr eisteddfodol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 ac yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.
Roedd ei dad, y Prifardd John Gwilym Jones, yn archdderwydd rhwng 1993 a 1996, a’i ewythr, T. James Jones, yn archdderwydd rhwng 2009 a 2013.
Roedd Christine James yn Archdderwydd rhwng 2013 a 2016. Dywedodd fod cael bod yn y rôl yn “fraint”.
“Mae’r Archdderwydd mewn safle pwysig. Ef neu hi sydd yn arwain ein seremonïau ac yn y blaen, felly mae’n bwysig bod y person yna yn un sydd yn gallu hawlio’r awdurdod fel petai wrth arwain seremoni,” meddai.
“Mae’n fraint aruthrol, mae’n rôl amlwg iawn, mae ’na gyfrifoldeb mawr.
“Beth sy’n wir am y seremonïau yw, er mai’r Archdderwydd sydd yn eu llywio nhw, seremonïau sy’n rhoi sylw i bobl eraill ydyn nhw.
“Felly mae rôl yr Archdderwydd yn ddwbl bwysig yn yr ystyr ’na, bod y sylw yn mynd oddi arno fe neu hi, a’r ffocws yn cael ei roi ar enillwyr y prif gystadlaethau, neu ar yr aelodau newydd sy’n cael eu derbyn i’r Orsedd.”
Bydd yr Archdderwydd etholedig yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa’r Pafiliwn ar ddechrau seremoni’r cadeirio ddydd Gwener, 7 Awst.
Ni fydd Mererid Hopwood yn trosglwyddo’r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028.