Beth nesaf i Betsi Cadwaladr? Adroddiad newydd i fanylu ar ddiogelwch, arweinyddiaeth a diwylliant

Betsi Cadwaladr

Fe fydd canfyddiadau adroddiad gan banel annibynnol o arbenigwyr sydd wedi asesu diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a'r diwylliant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd bellach, ac ar y lefel fwyaf difrifol, lefel 5, ers mis Chwefror 2023.

Yn dilyn arolygiad dirybudd a gynhaliwyd ym mis Mai 2026, fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd, yn Sir Ddinbych, yn wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol.

Roedd yr adran yn destun yr un trefniadau 'gwella'n sylweddol' yn flaenorol rhwng mis Mai 2022 a mis Awst 2024. 

'Brawychus'

Ym mis Mawrth eleni, fe ddywedodd dyn 68 oed o Ddeganwy ei fod yn poeni ei fod am farw ar ôl treulio 44 awr ar goridor yn Ysbyty Glan Clwyd.

Aeth Steve Jones i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Hydref 2025 ar ôl profi poen difrifol yn ei stumog.

Ar ôl cael ei weld gan dîm ‘triage’ yr ysbyty, cafodd Steve ei roi ar gadair mewn coridor.

“Mae'n anghredadwy beth sy'n digwydd yno. Ges i sioc,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar.

“Roedd e fel warzone. Ro’n i'n meddwl ‘mod i'n mynd i farw. Roedd e’n frawychus.”

Fe wnaeth ffigyrau Y Byd ar Bedwar ddatgelu bod bron i 89,000 o gleifion wedi cael eu trin ar goridorau neu mewn amgylcheddau anghlinigol eraill yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o 2022 i ddiwedd Hydref 2025.

Fe wnaeth y bwrdd iechyd ymddiheuro ar y pryd, gan ychwanegu ei fod "yn dysgu o arfer gorau gyda thîm o arbenigwyr allanol sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd gan ddod â phrofiad o bob rhan o'r DU."

Image
SJ Betsi
Steve Jones yn aros mewn coridor yn Ysbyty Glan Clwyd (Llun: Y Byd ar Bedwar)

Torri'n llai?

Mae dyfalu wedi bod y gall y bwrdd iechyd, sef y mwyaf yng Nghymru o ran maint daearyddol, gael ei rannu'n fyrddau iechyd llai, cymaint yw maint y problemau sydd yn bodoli ynddo cyhyd.

Pan gafodd yr adroddiad diweddaraf ei gomisiynu gan Lywodraeth newydd Cymru ym mis Mehefin eleni, y bwriad oedd i "sefydlogi gwasanaethau, i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, ac i ysgogi gwelliannau parhaol i bobl ledled y Gogledd" yn ôl gweinidogion.

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, wedi dweud bod y bwrdd iechyd yn dal i fethu â chyrraedd y safonau y mae pobl y Gogledd yn eu haeddu, gan bwysleisio na all y sefyllfa hon barhau.

Image
Mabon ap Gwynfor
Y Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor

Pan gafodd yr adroddiad ei gomisiynu ar ddechrau'r haf, dywedodd Mr ap Gwynfor ar y pryd fod y gwaith yn "yn ymyriad difrifol, sy'n adlewyrchu'r pryderon parhaus sydd heb eu datrys o hyd:

"Mae trefniadau blaenorol wedi dibynnu ar y bwrdd iechyd yn nodi ac yn cyflawni ei welliannau ei hun, gyda chymorth yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â hynny. 

"Ond dydy'r dull hwnnw ddim wedi gweithio."

Ychwanegodd fod y cynllun newydd "yn gwyro'n glir oddi wrth ddulliau aflwyddiannus y gorffennol.

"Rydyn ni'n gwneud mwy na gofyn i'r sefydliad wella; rydyn ni'n nodi'n glir sut i gyflawni'r gwelliannau hyn. Mae hynny'n golygu gosod disgwyliadau clir, cynnig arbenigedd wedi'i dargedu, a goruchwylio'r gwaith cyflawni yn agos ac yn barhaus."

Ymadawiad

Ganol y mis, fe gyhoeddwyd fod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, yn gadael ei swydd ar ddechrau 2027.

Mae wedi cael ei phenodi'n Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria, yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Ymunodd Ms Shillabeer â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mai 2023 fel Prif Weithredwr Dros Dro, yn ystod cyfnod o heriau sylweddol i'r sefydliad.

Roedd hynny'n fuan ar ôl i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan Fesurau Arbennig.

Dywedodd Carol Shillabeer ei bod yn "fraint fawr" gwasanaethu fel Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr.

Image
Carol Shillabeer
Carol Shillabeer (Llun gan y bwrdd iechyd)


 

 


 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.