Bellamy yn 'falch iawn' o fuddugoliaeth Cymru yn erbyn Norwy

bellamy.jpg

Mae rheolwr Cymru Craig Bellamy yn dweud ei fod yn "falch iawn" o'r fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Norwy nos Iau yng Nghynghrair y Cenhedloedd. 

Er mai Norwy sgoriodd gyntaf, fe wnaeth goliau gan Dan James a Neco Williams sicrhau triphwynt cyntaf Cymru yn y gystadleuaeth.

Fe wnaeth y fuddugoliaeth ddod â rhediad Cymru o chwe gêm heb fuddugoliaeth, a ddechreuodd gyda'r golled yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth, i ben.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Bellamy ei fod yn cydnabod nad yw Cymru wedi bod gystal yn y gemau ers hynny. 

"Mae yna bendant ddirywiad mewn answawdd wedi bod ers Cwpan y Byd, ers y rowndiau rhagbrofol. Dw i'n gwybod fod Bosnia wedi brifo llawer o bobl, fe wnaeth o fy mrifo i," meddai.

"Dw i wedi cymryd tipyn o feirniadaeth ar ôl Bosnia hefyd a dw i'n deall hynny oherwydd coeliwch chi fi, ro'n i'n teimlo'r boen yna hefyd. Dw i'n meddwl y gwnaethon ni chwarae yn dda iawn yn erbyn Bosnia ond dw i'n gwybod mai'r canlyniadau sy'n cyfri. 

"Ers hynny, dw i'n meddwl ein bod ni jest wedi dirywio. Dim dyna'r achos yn erbyn Ghana i ryw raddau, ond yn y gêm yn erbyn Romania, dim ni oedd hynny. Roedd Portiwgal yn her wahanol, fe wnaethon ni gadw ein llinellau yn dda .. ond gyda Denmarc, dydyn ni ddim yn gallu colli yn y ffordd yna, roedd hi mor hawdd iddyn nhw ac nid ni yw hynny.

Ychwanegodd: "Ddydd Iau, dyna oedd y rhan allweddol. Mae'n rhaid i ni fod yn chwarae fel ni, waeth beth fo'r canlyniad, rydyn ni wedi haeddu ein lle felly pam fydden ni'n newid? 

"Roeddwn i'n falch iawn o weld hynny."

Bydd perfformiad a chanlyniad nos Iau yn hwb mawr i Bellamy a'i dîm wrth iddyn nhw groesawu Denmarc i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.