Beddau dros ganrif oed 'i gael eu hailddefnyddio yng Nghymru a Lloegr'
Fe allai beddi sydd dros ganrif oed mewn mynwentydd ar draws Cymru a Lloegr gael eu hail-ddefnyddio o dan gynlluniau newydd.
Dywedodd Comisiwn y Gyfraith fod eu hargymhellion yn argymell moderneiddio cyfreithiau, gyda rhai heb gael eu newid ers mwy na 170 mlynedd.
Y bwriad yw mynd i'r afael â phrinder mannau claddu tra'n sicrhau mesurau diogelwch cadarn i deuluoedd sy’n galaru.
Mae ailddefnyddio hen feddi eisoes yn cael ei ganiatáu mewn mynwentydd yng nghyngor Llundain, mynwentydd Eglwys Loegr, a rhai mynwentydd sydd â'u cyfreithiau eu hunain. Ond byddai'r newidiadau yn mynd ymhellach i gynnwys mynwentydd ehangach ar draws Cymru a Lloegr.
Fe gafodd pryderon eu codi yn flaenorol am darfu ar gerrig beddi milwyr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd fel rhan o’r diwygiad cyfreithiol arfaethedig.
Ond dywedodd y Comisiwn y byddai gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad (CWGC) yr hawl i wrthwynebu bob amser.
Dywedodd adroddiad y Comisiwn a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher: "Mae'r CWGC yn dweud wrthym y bydd wastad yn gwrthwynebu. O ganlyniad, ni fyddai'r diwygiadau sy'n cael eu hargymell gennym ni yn arwain at unrhyw fedd rhyfel y Gymanwlad yn cael ei ail-ddefnyddio fyth."
100 mlynedd
Mae'r argymhellion cyffredinol yn "ymateb yn uniongyrchol i'r heriau cyfoes, gan gynnwys prinder mannau claddu" yn ôl yr Athro Lisa Webley, sydd yn gomisiynydd ar gyfer cyfraith eiddo, teulu ac ymddiriedolaeth.
Mae'r comisiwn yn argymell caniatáu i fynwentydd canrifoedd oed a gafodd eu cau o dan gyfreithiau Fictorianaidd gael eu hail-agor. Gallai hynny arwain at y posibilrwydd y bydd mynwentydd plwyf lleol yn cael eu defnyddio ar gyfer claddedigaethau eto.
Ni fyddai unrhyw fedd yn cael ei ail-ddefnyddio tan 100 mlynedd ar ôl y gladdedigaeth ddiwethaf, sydd yn hirach na'r 75 mlynedd bresennol. Fe fyddai gan anwyliaid flwyddyn i wrthwynebu i ail-ddefnyddio'r bedd.
Byddai ail-ddefnyddio yn gallu golygu y byddai'r gweddillion presennol yn y bedd yn cael eu symud yn ddyfnach i lawr, gyda'r gweddillion newydd yn cael eu claddu uwchben.
Ychwanegodd y Comisiwn hefyd y byddai gwrthwynebiad teulu yn atal bedd rhag cael ei ailddefnyddio am 25 mlynedd ymhellach.