Y BBC'n gwybod am ymchwiliad Scott Mills yn 2017 ond 'gwybodaeth newydd' arweiniodd at ei ddiswyddo

Scott Mills

Mae'r BBC wedi cydnabod eu bod yn gwybod am ymchwiliad yr heddlu i'r cyflwynydd radio Scott Mills yn 2017, ond yn ôl y gorfforaeth, roedd angen gweithredu'n syth ar ôl iddyn nhw dderbyn "gwybodaeth newydd" yn yr wythnosau cyn iddo gael ei ddiswyddo.   

Datgelodd y BBC iddyn nhw ddod â chytundeb y cyflwynydd ar BBC Radio 2 i ben ddydd Gwener diwethaf, ddyddiau yn unig ar ôl iddo gael ei dynnu oddi ar yr awyr. 

Mae'r gorfforaeth bellach wedi cyhoeddi i hynny ddigwydd ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth yn yr wythnosau diwethaf. 

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Cafodd Scott Mills yrfa hir yn y BBC, roedd yn hynod o boblogaidd, ac rydym yn gwybod fod y newyddion yr wythnos hon wedi synnu nifer.    

“Rydym hefyd yn cydnabod fod tipyn o ddyfalu yn y cyfryngau ac ar-lein ers ddydd Llun. Rydym yn gobeithio fod pobl yn deall bod cyfyngiadau ar yr hyn y medrwn ei ddweud, oherwydd mae angen i ni gymryd i ystyriaeth hawliau'r rhai sydd ynghlwm â hyn.

“Yr hyn y medrwn ei gadarnhau ydy i ni dderbyn gwybodaeth newydd yn gysylltiedig â Scott yn yr wythnosau diwethaf ac fe siaradom yn uniongyrchol ag e.  O ganlyniad i hynny, fe weithredodd y BBC yn syth, yn unol â'n diwylliant a gwerthoedd, gan ddod â'i gytundebau i ben, ddydd Gwener, 27 Mawrth.”

Ychwanegodd y gorfforaeth: “Ar fater arall, gallwn gadarnhau fod y BBC yn ymwybodol yn 2017 fod ymchwiliad gan yr heddlu, a gafodd ei gau yn 2019, gyda neb yn cael ei arestio na'i gyhuddo. Rydym yn cynnal ymholiadau pellach er mwyn deall manylion yr hyn yr oedd y BBC yn ymwybodol ohono ar y pryd.”

Honiadau 

Fe gafodd Scott Mills ei holi am honiadau o droseddau rhyw yn erbyn bachgen o dan 16 oed yn 2018, ond fe gafodd yr achos ei ollwng yn ddiweddarach yn sgil diffyg tystiolaeth, yn ôl datganiad gan yr heddlu.

Dywedodd Heddlu'r Met wrth y BBC fod dyn, a oeddyn ei 40au ar y pryd, wedi wynebu ymchwiliad yn sgil honiadau a ddigwyddodd yn honedig rhwng 1997 a 2000.

Yn ôl The Mirror, fe gafodd yr achos ei ollwng yn 2019 ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Gorlon ddatgan nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau. 

Ymunodd Scott Mills  ag arlwy BBC Radio 2 yn ystod yr wythnos yn 2022 pan gymerodd le Steve Wright fel cyflwynydd y prynhawn.

Cyn BBC Radio 2, bu’n gweithio ar BBC Radio 1 ers 1998, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen benwythnos ar BBC Radio 5 Live.

Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y darlledwr, roedd Mills yn ennill rhwng £355,000 a £359,999 y flwyddyn.

Llun Scott Mills gan Jonathan Brady / PA.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.