Y BBC yn ymddiheuro am beidio golygu sylw hiliol gan westai â Tourette's
Mae'r BBC wedi ymddiheuro am beidio golygu sylw hiliol gafodd ei weiddi yn ystod seremoni'r Baftas nos Sul.
Cafodd y sylw ei wneud gan berson gyda'r cyflwr Tourette's pan oedd dau actor du ar y llwyfan.
Fe weiddodd John Davidson air hiliol ar yr actorion Michael B Jordan a Delroy Lindo wrth iddyn nhw gyflwyno gwobr gyntaf y seremoni.
Mae bywyd Davidson wrth dyfu fyny yn yr Alban yn yr 80au gyda Tourette's yn cael ei olrhain yn y ffilm I Swear.
Ni wnaeth y BBC olygu'r foment cyn darlledu'r seremoni Baftas a doedd y rhaglen ddim yn cael ei darlledu'n fyw.
Fe wnaeth y rhaglen hefyd ymddangos ar BBC iPlayer tan fore dydd Llun.
Mewn datganiad mae'r BBC wedi dweud: "Rydyn ni yn ymddiheuro na chafodd hyn ei olygu cyn cael ei ddarlledu ac fe fydd nawr yn cael ei dynnu allan o'r fersiwn sydd ar BBC iPlayer."
Mae'r cyflwr Tourette yn golygu bod person yn medru gwneud symudiadau ailadroddus neu synau ailadroddus sydd yn cael eu galw yn tics. Maent yn aml yn cael eu hamlygu trwy hyrddiau fel rhegi uchel.
Fe wnaeth Davidson weiddi sawl gwaith cyn ac yn ystod y seremoni nos Sul.
Fe wnaeth cyflwynydd y seremoni, yr actor Alan Cumming, ymddiheuro yn ystod y seremoni am y rhegfeydd.
Dywedodd Cumming bod "iaith gref" yn medru bod yn rhan o'r cyflwr Tourette. "Diolch am ddeall ac am greu awyrgylch barchus i bawb," meddai Cumming.
Fe adawodd John Davidson y seremoni cyn y diwedd.
'Camgymeriad ofnadwy'
