'Barod i chwarae ein rhan': Y Blaid Werdd yn cyhoeddi ei maniffesto

A Slaughter

Mae’r Blaid Werdd wedi dweud y byddai’n cyflwyno gofal plant i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed ac atal rhagor o ysgolion cefn gwlad rhag cau petai’n ennill etholiad y Senedd fis Mai.

Wrth gyhoeddi eu maniffesto ym Mhort Talbot ddydd Mawrth, fe ddywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Anthony Slaughter, fod y blaid yn “barod i i chwarae ein rhan mewn llywodraeth”.

Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu mai Plaid Cymru yw’r ceffyl blaen yn y ras etholiadol gyda chyfran o 33% o’r bleidlais, fyddai'n brin o sicrhau mwyafrif yn y Senedd. 

Byddai angen cydweithio gyda phlaid arall er mwyn i Blaid Cymru ffurfio llywodraeth, ac mae dyfalu mai'r Blaid Werdd fyddai'r blaid fwyaf tebygol i wneud hynny.

Mae’r Blaid Werdd eisoes wedi datgan eu bod yn debygol o chwarae rhan ganolog mewn penderfynu dros bwy fydd yn llywodraethu.

Yn ail yn ôl yr arolwg gan YouGov ar ran ITV mae Reform UK, gyda 27%. Yn drydydd mae Llafur, oedd â 13% o’r bleidlais, ond gyda 12% o’r bleidlais mae’r Blaid Werdd.

Costau byw

Yn ei maniffesto, mae’r blaid yn dweud eu bod wedi cyhoeddi “mesurau er mwyn helpu pobl â chostau byw a dod â gobaith yn ôl i bobl Cymru.”

Byddai hyn yn cynnwys cyflwyno gofal plant cyffredinol i blant rhwng naw mis a phedair oed, a chynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd a chynradd.

Ym maes addysg, byddent hefyd yn gwneud ysgolion yn safleoedd “di-ffôn” i ddisgyblion, ac atal rhagor o ysgolion bach gwledig rhag cau.

Ym maes tai, maent wedi addo i rewi rhent er mwyn ceisio dod â chostau rhentu dan reolaeth, a mynd i afael â digartrefedd drwy wahardd yr hawl i landlordiaid i droi tenantiaid allan heb fai.

Fe fydd y blaid yn cynnig tocynnau bws £1 i bawb er mwyn gwneud teithio’n hygyrch hefyd.

Ym maes iechyd, mae’r Gwyrddion yn addo symud gwariant gofal iechyd tuag at atal clefydau gyda chanolfannau iechyd a lles lleol, ymyrraeth gynharach a gofal integredig.

Mae’r maniffesto hefyd yn addo cryfhau'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn cymunedau a bywyd cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Mr Slaughter: “Mae pobl Cymru wedi cael eu trin yn annheg gan sawl llywodraeth San Steffan a rheolaeth Llafur yng Nghymru – gan adael cymaint ohonom yn brwydro bob dydd i oroesi. 

“Dyna pam rydym wedi blaenoriaethu camau gweithredu i helpu pobl gyda’r argyfwng costau byw.

“Ein gweledigaeth yw Cymru lle gall pawb fyw mewn urddas, lle mae pawb yn cael eu parchu, a lle mae ganddynt safon byw a lles gweddus. 

“Bydd ein cynllun cynhwysfawr – o’r celfyddydau a diwylliant i iechyd ac addysg – yn gwella bywydau pobl ac yn dod â gobaith yn ôl i’r wlad hon yr ydym yn ei charu. 

“Rydym yn barod i chwarae ein rhan mewn llywodraeth – a byddwn yn ymladd dros bob pleidlais.”

Mewn ymateb dywedodd Llafur Cymru fod y Blaid Werdd yn "gwneud addewidion nad oes modd iddynt eu cadw na'u costio.

"Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau mwy o dai, ond pan arweinion nhw gyngor, fe gynigion nhw werthu tai cyngor. Maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau ymladd yn erbyn newid hinsawdd ond maen nhw wedi gwrthwynebu ffermydd gwynt a solar.

“Bydd y Blaid Werdd yn treulio'r pedair blynedd nesaf yn bwydo obsesiwn Plaid Cymru ag annibyniaeth, ar draul swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, a phobl Cymru."

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.