Banc Lloegr yn cyhoeddi’r anifeiliaid all ymddangos ar arian papur

Arian Parod newydd

Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi rhestr fer o 18 o anifeiliaid allai ymddangos ar arian papur y dyfodol.

Ymhlith yr opsiynau mae dolffin, llwynog, draenog, tylluan a chacynen.

Daw hyn ar ôl i natur gael ei dewis fel thema gyffredinol yr arian papur newydd ym mis Mawrth.

Mae'r banc bellach yn gofyn i'r cyhoedd roi eu barn ar ba anifeiliaid penodol ddylai ymddangos ar yr arian papur gwerth £5, £10, £20 a £50.

Mae sawl rhywogaeth ar y rhestr sydd â chysylltiad cryf â Chymru, gan gynnwys dolffin trwyn potel, pâl, gylfinir, eog yr Iwerydd a'r glöyn byw britheg y gors.

Mae dolffiniaid trwyn potel i'w gweld ym Mae Ceredigion, tra bod Ynys Sgomer yn Sir Benfro yn adnabyddus am ei phoblogaeth o balod.

Dywedodd Banc Lloegr y bydd cynrychiolaeth o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan bwysig o'r dyluniad terfynol.

Bydd anifail gwahanol yn ymddangos fel y brif ddelwedd ar bob un o'r pedwar papur.

Image
Arian Parod
Mae eog yr Iwerydd, heulgi, gwas y neidr a britheg y gors ymhlith yr anifeiliaid sydd ar y rhestr fer

Gall y cyhoedd ddewis hyd at ddau anifail o bob categori yn yr ymgynghoriad, a fydd ar agor tan 23.59 ar 3 Gorffennaf.

Dywedodd Banc Lloegr mai dim ond yr anifeiliaid sydd ar y rhestr fer all gael eu dewis fel y brif ddelwedd ac nid ydyn nhw'n chwilio am awgrymiadau ychwanegol.

Bydd portread o’r brenin yn parhau i ymddangos ar yr arian papur, ynghyd â delweddau ychwanegol o natur.

Rhestr Fer

Mae'r anifeiliaid wedi'u rhannu'n dri chategori, gan gynnwys rhywogaethau sy'n byw mewn gwahanol gynefinoedd.

Mamaliaid

  • Dolffin trwyn potel
  • Ysgyfarnog frown
  • Draenog Ewropeaidd
  • Morlo llwyd
  • Bele
  • Llwynog coch

Adar

  • Pâl
  • Tylluan wen
  • Glas y dorlan
  • Gylfinir
  • Cnocell fraith fawr
  • Eryr môr

Amffibiaid, pryfed a physgod

  • Eog yr Iwerydd
  • Heulgi
  • Cacynen gynffon-lwyd
  • Broga cyffredin
  • Gwas y neidr yr ymerawdwr
  • Britheg y gors

Mae’r RSPCA wedi croesawu’r ymgynghoriad. Er hynny dywedodd Dr Ros Clubb, Pennaeth Anifeiliaid Gwyllt yr elusen, y byddai wedi hoffi gweld anifeiliaid fel gwylanod, llygod mawr, colomennod a moch daear ar y rhestr fer.

“Byddem wedi hoffi gweld mwy o’r anifeiliaid sydd ddim wastad yn cael eu gwerthfawrogi yn cael eu cynnwys,” meddai.

Image
Arian Parod
Ymhlith yr opsiynau eraill mae ysgyfarnog, draenog, morlo llwyd a bele’r coed

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Banc Lloegr mai natur fyddai thema’r gyfres nesaf o arian papur, wedi i fywyd gwyllt ddod i’r brig mewn ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

Derbyniodd y banc dros 44,000 o ymatebion, gyda bywyd gwyllt yn cael 60% o’r enwebiadau.

Andrew Bailey, Llywodraethwr Banc Lloegr, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Dywedodd y banc fod angen dewis pedwar anifail amlwg sy’n cynrychioli gwahanol gynefinoedd ar draws y DU, felly mae’n bosib na fydd y pedwar mwyaf poblogaidd yn cael eu dewis.

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.

Mae’r gyfres bresennol yn cynnwys Winston Churchill, Jane Austen, JMW Turner ac Alan Turing.

Fe wnaeth y penderfyniad i symud oddi wrth ffigurau hanesyddol ennyn beirniadaeth gan rai gwleidyddion pan gafodd y thema ei chyhoeddi.

Bydd hi’n nifer o flynyddoedd cyn i’r gyfres newydd gael ei chyflwyno, gan fod angen dylunio, profi ac argraffu’r papurau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.