Bachgen pedair oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad
Mae bachgen pedair oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad un cerbyd yn yr Alban ddydd Gwener.
Roedd y bachgen yn deithiwr mewn Land Rover du a oedd mewn gwrthdrawiad yn Bathgate, yng Ngorllewin Lothian, tua 16.30.
Cafodd dyn 28 oed, a oedd yn gyrru’r car, ei anafu yn y digwyddiad.
Cafodd y bachgen ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty St John’s yn Livingston, lle bu farw ychydig yn ddiweddarach. Mae ei deulu wedi cael gwybod.
Dywedodd y Rhingyll Dave Waddell: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau’r bachgen a fu farw ar yr adeg hynod anodd hon.
“Mae’r ymchwiliad yn parhau a byddwn yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai helpu, i gysylltu â ni os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.
“Byddwn hefyd yn gofyn i yrwyr sydd â chamerâu yn eu cerbydau, ac a oedd yn yr ardal tua’r adeg honno, edrych drwy eu recordiadau am unrhyw luniau a allai helpu gyda’n hymchwiliad.”
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad.