Bachgen yn ei arddegau wedi’i garcharu am lofruddio mam i dri

Kian Bateman

Mae bachgen yn ei arddegau wedi cael dedfryd oes am lofruddio mam i dri o blant drwy yrru drosti â char yng Nghaerdydd.

Cafwyd Kian Bateman, 19 oed, yn euog o lofruddio Shelley Davies, 38 oed, yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe'i gafwyd yn euog hefyd o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i bartner Ms Davies, David Bratcher.

Ddydd Gwener, fe gafodd Bateman ddedfryd oes gydag isafswm o 17 mlynedd yn y carchar.

Fe gafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 21 mlynedd ac mae gorchymyn iddo sefyll prawf gyrru estynedig wedi hyn.

Clywodd y llys fod Bateman wedi bod yn cymryd ocsid nitrus cyn gyrru car Seat Ibiza ei fam at Ms Davies a Mr Bratcher y tu allan i Glwb 4ydd Gwarchodlu Cartref Morgannwg yn y ddinas.

Roedd wedi bod yn y clwb gyda’i ffrindiau i weld gig gan y band General Levy ar noson y digwyddiad, nos Sadwrn 27 Medi 2025.

Ar ôl i’r bar gau, fe adawodd y lleoliad yn y car i ymweld â’i gariad, ond fe ddychwelodd ar ôl sylweddoli nad oedd hi wedi cyrraedd adref o’r gwaith.

Roedd criw o bobl wedi ymgasglu y tu allan i’r clwb ac roedd yr awyrgylch yn mynd yn “hyll”, meddai’r llys.

Gwelodd Bateman ei frawd mewn anghydfod â grŵp o bobl, ac yn ystod y digwyddiad fe syrthiodd Shelley Davies i’r llawr.

Yna fe yrrodd Bateman ei gar yn fwriadol at y grŵp, gan yrru dros Ms Davies wrth iddi orwedd ar y llawr, cyn taro Mr Bratcher a’i anafu’n ddifrifol.

Dywedodd y Barnwr Mrs Justice Stacey: “Fe wnaethoch chi yrru’n syth dros [Ms Davies] ar gyflymder o tua 10mya wrth ichi gyflymu tuag at Mr Bratcher, cyn ei daro gyda’r car.

“Wnaethoch chi ddim stopio, ond fe wnaethoch chi yrru i ffwrdd… fe wnaethoch chi ildio eich hun y diwrnod canlynol.”

Image
Shelley
Shelley Davies

'Eiliadau yn unig'

Bu farw Ms Davies yn yr ysbyty ar 18 Hydref o ganlyniad i’w hanafiadau.

Roedd Bateman, o Gaerdydd, wedi cyfaddef achosi marwolaeth ac anaf drwy yrru’n beryglus, ond fe'u gafwyd ef yn euog gan reithgor o lofruddiaeth ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Dywedodd Caroline Rees KC, oedd yn amddiffyn Bateman, mai’r bwriad oedd “achosi niwed difrifol i David Bratcher yn unig”.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gynllunio ymlaen llaw ac mai trosedd oedd hon a ddigwyddodd “o fewn eiliadau yn unig, er gwaethaf y canlyniadau trasig”.

Clywodd y llys fod gan Bateman anabledd dysgu, ei fod wedi dangos edifeirwch ac nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau blaenorol.

Dywedodd Anthony Clarke o Wasanaeth Erlyn y Goron fod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr achos wedi argyhoeddi’r rheithgor “nad damwain oedd hon”.

“Fe wnaeth y diffynnydd ddefnyddio ei gar yn fwriadol fel arf, gyda chanlyniadau dinistriol," meddai.

“Arweiniodd ei weithredoedd at farwolaeth drasig menyw ifanc ac at anafu pobl eraill.

“Er bod yr achos hwn wedi dod i ben, mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau Shelley Davies yn dilyn eu colled drasig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.