Bachgen 17 oed o Gaerdydd wedi colli ei goes ar ôl iddo gael ei drywanu
Mae bachgen 17 oed a gafodd ei drywanu ar Ynys y Barri ar ddydd Llun gŵyl y banc wedi gorfod cael llawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd.
Cafodd y bachgen, sy'n dod o Gaerdydd, ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Ar y pryd, dywedodd yr heddlu nad oedd ei anafiadau'n cael eu hystyried yn rhai a fyddai'n newid ei fywyd, ond mae'r llu bellach wedi cadarnhau bod cyflwr y bachgen wedi gwaethygu ac iddo orfod cael llawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd.
Bu hefyd yn derbyn gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
'Dinistriol'
Dywedodd yr Ditectif Arolygydd Sarah Lee o Heddlu De Cymru: "Mae maint a difrifoldeb yr anaf a gafodd y dioddefwr yn ei arddegau yn gwbl ddinistriol.
"Yn ddealladwy, mae ei deulu mewn trallod mawr, ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddog arbenigol."
Ychwanegodd fod yr heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn edrych ar gamerâu teledu cylch cyfyng am dystiolaeth.
"Mae dyn 18 oed o ardal Glan yr Afon o Gaerdydd, a gafodd ei arestio ar ddiwrnod y digwyddiad ar amheuaeth o anafu gyda bwriad, yn parhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal," meddai.
"Rydym yn annog tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Crimestoppers yn ddienw," ychwanegodd y ditectif.