Babi o Gaerdydd yn derbyn calon artiffisial yn dilyn ple gan ei rieni
Mae babi tri mis oed o Gaerdydd wedi derbyn calon artiffisial yn dilyn ymgyrch codi arian er mwyn achub ei fywyd.
Roedd Dylan a Catrin Green wedi gwneud ple emosiynol am driniaeth i achub bywyd eu mab, Macs.
Aeth Dylan a Catrin â Macs i'r ysbyty yng Nghaerdydd ym mis Mehefin yn ôl ar iddo gael trafferth yn bwydo.
Dioddefodd ddau ataliad ar ei galon arweiniodd at chwyddo fentrigl yn ei galon.
Roedd yn ddifrifol wael mewn uned gofal dwys ac roedd angen triniaeth 'Calon Berlin' fyddai'n ei gadw yn sefydlog tra'n aros am drawsblaniad calon.
Fe dderbyniodd y galon artiffisial ddydd Gwener yn ôl diweddariad ar dudalen yr ymgyrch codi arian.
Dywedodd y diweddariad: “Er gwaethaf popeth y mae wedi mynd drwyddo, rydym yn hynod ddiolchgar i rannu bod Macs wedi cael ei 'Berlin Heart' ddydd Gwener.
“Mae hwn wedi bod yn gam enfawr ymlaen iddo ac, yn bwysicaf oll, mae’n rhoi’r amser gwerthfawr sydd ei angen arno tra’n aros am galon addas gan roddwr.
“Rydym yn gobeithio y gellir ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu cyn bo hir, gan ganiatáu iddo ddechrau cam nesaf ei daith - cryfhau, gwella ar ôl popeth y mae wedi mynd drwyddo, ac, yn bwysicaf oll, cael y cofleidiau diddiwedd y mae’n eu haeddu gymaint o’r diwedd."
Fe wnaeth yr ymgyrch codi arian gasglu dros £28,000 mewn dwy awr. Fore dydd Sadwrn roedd dros £30,000 wedi ei gasglu.
Roedd llefarydd ar ran cyd-bwyllgor comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi cadarnhau bod cyllid ar gael i ariannu triniaeth ond bod "capasiti yn cael ei reoli drwy'r Deyrnas Unedig, ac mae mynediad i driniaeth yn cael ei benderfynu drwy asesiad clinigol".
Dirywiad
Ar ddechrau mis Gorffennaf, cafodd Macs ei symud o Gaerdydd i Ysbyty Brenhinol Plant Bryste.
Fe wnaeth ei gyflwr ddirywio ymhellach ac aeth i mewn i coma gyda pheiriant arbenigol yn gwneud gwaith ei galon.
Yn ôl ei rieni, roedd angen iddo gael ei symud i ysbyty Great Ormond Street yn Llundain neu i Newcastle - yr unig ddau ysbyty sydd yn cynnig triniaeth 'Calon Berlin' - ac hynny ar fyrder.
Byddai'r driniaeth honno yn gallu gwneud gwaith y galon am sawl mis tra bod Macs yn aros am drawsblaniad.
Mewn cyfweliad emosiynol gyda Newyddion S4C, dywedodd Catrin Green ei bod hi ar ben ei thennyn: "Mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn. Ma' dyddiau 'da ni tan bod dim byd arall ma' nhw'n gallu wneud i Macs."
"Mae jyst gwatchad e yn y gwely 'na yn rili anodd i ni. Ond ie, ni jyst angen gwely iddo fe [er mwyn cael 'Calon Berlin'].
"Ma'n rili frustrating bod triniaeth i gael i fe i achub ei fywyd e, bod e'n gallu cael bywyd llawn... achos er y byddai'n rhaid iddo fe dod yn 'sbyty am cyfnod hir, byddai'n... gallu dysgu fel i cropian, cerdded.
"Bydde'n rili neis cyrraedd y cam yna. Ond ar y funud, achos bod dim gwely, dyw e ddim yn gallu gael y triniaeth ma' fe angen."
Calon Berlin
Yn ôl ffigyrau gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau'r GIG, mae llai na phump o gleifion yn defnyddio 'Calon Berlin' ar hyn o bryd yn ysbytai Cymru a Lloegr.
Bydd angen trawsblaniad ar Macs wedi iddo dderbyn y driniaeth newydd.
Gyda dim ond 2% o'r rhoddwyr organau marw yng Nghymru a Lloegr yn blant dan 18 oed yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tad Macs, Dylan, hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi organau:
"Mae mor bwysig i drafod rhoi organau.
"Dyw e ddim yn bwnc neis i drafod, ond os oes mwy o bobl yn rhoi organau, fe allan nhw helpu plant fel Macs i fyw bywydau llawn ac hapus."