Y babi cyntaf ym Mhrydain wedi’i eni o groth gan roddwr marw
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys llun all beri gofid.
Bachgen bach o'r enw Hugo yw’r plentyn cyntaf yn y DU i gael ei eni i fam a dderbyniodd croth gan roddwr oedd wedi marw.
Cafodd Hugo Powell ei eni yn pwyso 6 pwys 13 owns (3.1kg) ym mis Rhagfyr yn Ysbyty Queen Charlotte and Chelsea, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Coleg Imperial.
Dim ond dau achos blaenorol o enedigaeth gan ddefnyddio croth (womb) gan roddwr a oedd wedi marw sydd erioed wedi’u cofnodi yn Ewrop.
Y llynedd, cyhoeddodd llawfeddygon enedigaeth cyntaf babi y DU o drawsblaniad croth. Roedd y rhoddwr hwnnw dal yn fyw adeg y trawsblaniad.
Fe gafodd mam Hugo, Grace Bell, rheolwr rhaglen TG, ei geni gyda chyflwr prin o’r enw Mayer-Rokitansky-Kuster-Hauser (MRKH), sy’n golygu bod y groth heb ddatblygu’n llawn neu ar goll.
Mae tad Hugo, Steve Powell, yn gweithio ym maes cyllid, ac mae’r cwpl, sydd ill dau yn eu 30au, yn byw yn ne Lloegr.
Dywedodd Ms Bell, a gafodd ddiagnosis o MRKH pan oedd hi’n 16 oed, wrth PA: “Mae’n wyrth, yn syml iawn.
“Wnes i byth, byth feddwl y byddai hyn yn bosib.
“Dw i’n hapusach nag ydw i erioed wedi bod yn fy mywyd.”
Wrth ddisgrifio genedigaeth Hugo drwy doriad Cesaraidd, dywedodd: “Dw i’n cofio bod lot fawr o bobl yn yr ystafell yn rhedeg o gwmpas.
“Ro’n i’n dal llaw Steve ar y pryd...
“Dw i’n cofio trio edrych dros y llenni, ac wedyn cafodd Hugo ei roi yn fy mreichiau, a dyna oedd y foment roedd pawb wedi gweithio mor galed i’w chyrraedd.
“Ers pan o’n i’n 16 oed, do’n i byth yn meddwl y byddai hyn yn bosib. Felly mae’n wyrth go iawn.
“Roedd y cyfan yn teimlo braidd yn afreal ar y pryd achos mae hon wedi bod yn daith mor hir i’r ddau ohonon ni.
“Dw i’n cofio deffro yn y bore a gweld ei wyneb bach, gyda’i ddymi bach, ac roedd hi fel petai angen i fi ddeffro o freuddwyd.
“Roedd e’n anhygoel.”
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.