Awyren i Chicago wedi mynd i drafferthion dros Gymru
Fe aeth awyren British Airways i Chicago i drafferthion ddydd Llun gan ei gadael yn teithio’n igam-ogam dros Sir Benfro am rai oriau.
Roedd yr awyren British Airways oedd ar ei ffordd i Chicago wedi gadael Maes Awyr Heathrow tua 12.15 brynhawn Llun.
Syrthiodd mwy na 27,000 o droedfeddi (8,200m) mewn munudau ar ôl i “broblem dechnegol” arwain at gyhoeddi argyfwng tua hanner awr i mewn i’r hediad, wrth hedfan dros Iwerddon.
Mae data olrhain hediadau yn dangos iddi hedfan yn ôl dros dde Cymru cyn hedfan sawl gwaith dros Sir Benfro a de-orllewin Lloegr, cyn dychwelyd i Heathrow yn Llundain yn y pen draw toc wedi 17.00
Mewn datganiad, dywedodd British Airways: “Fe wnaeth yr awyren lanio’n ddiogel ar ôl i’n peilotiaid, sydd wedi cael hyfforddiant trylwyr, ddychwelyd i Heathrow oherwydd problem dechnegol.
“Fe wnaeth y teithwyr adael yr awyren yn y ffordd arferol, ac mae ein timau’n gweithio i’w helpu i barhau â’u teithiau cyn gynted â phosib.”
Mae’n debygol y bydd y cwmni hedfan yn darparu ystafelloedd gwesty i’r teithwyr nes bydd hediad arall ar gael, yn unol â gofynion Awdurdod Hedfan Sifil y DU.
