Awr o barcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio Cyngor Sir Gâr

Parcio Cfyddin

Fe fydd trigolion ac ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael awr o barcio am ddim ym meysydd parcio'r cyngor yn y dyfodol.

Fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gytuno ar newidiadau i ffioedd parcio mewn cyfarfod ddydd Llun.

Bydd hyn yn cynnwys awr o barcio am ddim fesul ymweliad ym mhob un o'r 67 maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir.

Ar ôl cael awr o barcio am ddim, bydd meysydd parcio canol tref yn Llanelli a Chaerfyrddin yn codi ffi o £2 am ddwy awr, £3 am dair awr neu £4 drwy'r dydd.

Bydd meysydd parcio yn Rhydaman a threfi gwledig y sir yn codi tâl o £2 ar ôl yr awr gyntaf am hyd at dair awr, neu £2.50 drwy'r dydd.

Ni fydd y ffioedd hyn yn newid am y tair blynedd nesaf.

Tocynnau

Bydd tocynnau rhatach am ddau ddiwrnod neu fwy ar gael i'r rhai sy'n defnyddio meysydd parcio canol tref yn rheolaidd, ac ni fydd diwrnodau parcio am ddim Cynghorau Tref yn cael eu cynnig o hyn allan.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: "Bydd y strategaeth ddiwygiedig ar gyfer parcio oddi ar y stryd yn darparu system syml, deg a hygyrch ar gyfer parcio ar draws Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys awr o barcio am ddim fesul ymweliad.

"Trwy ddarparu awr o barcio am ddim, rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i breswylwyr ac ymwelwyr fynd i ganol ein trefi a'n cymunedau gwledig, p'un a ydyn nhw'n siopa'n lleol, yn ymweld â busnesau, yn mynychu apwyntiadau, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus neu'n cefnogi atyniadau lleol.

"Mae'r dull hwn yn cydnabod y rôl bwysig y mae canol ein trefi yn ei chwarae yn yr economi leol a bydd yn helpu i annog mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu lleoedd bywiog, hygyrch i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.