Teyrngedau i heddweision fu farw mewn gwrthdrawiad yng ngogledd Lloegr

Yr heddweision

Mae teuluoedd yr heddweision a fu farw mewn gwrthdrawiad a laddodd saith o bobl ar yr A66 yng ngogledd-ddwyrain Lloegr wedi rhoi teyrnged iddyn nhw.

Dywedodd gwraig PC Matthew Blades, a oedd yn 37 oed, fod y poen o'i golli "y tu hwnt i eiriau".

“Ni fydd unrhyw eiriau byth yn teimlo fel y geiriau iawn i anrhydeddu ein Matt, fy ngŵr annwyl, fy ffrind gorau a’r tad mwyaf ymroddedig i’n dau fachgen ifanc," meddai.

“Roedd yn fab ac yn frawd annwyl, yn fab-yng-nghyfraith perffaith ac yn ewythr llawn hwyl. Roedd ei deulu a’i ffrindiau i gyd yn ei garu y tu hwnt i eiriau, ac mae ei golli wedi gadael bwlch na ellir byth ei lenwi.

“Fe roddodd ei fywyd wrth gyflawni ei ddyletswydd, gan amddiffyn a gwasanaethu eraill gyda dewrder, ymroddiad ac anhunanoldeb.

“Mae’r boen o’i golli y tu hwnt i eiriau, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath. Ond ni fydd y cariad a roddodd i ni byth yn pylu chwaith.

“Bydd ein plant yn tyfu i fyny gan wybod cymaint o dad anhygoel yr oedd, ac y bydd bob amser, a byddaf bob amser yn cario ei gariad, ei atgof a phopeth y gwnaethom ei rannu gyda mi.

“Efallai ei fod wedi gadael y byd hwn wrth gyflawni’r ddyletswydd yr oedd yn credu ynddi, ond ei etifeddiaeth fwyaf bob amser fydd y cariad a roddodd i’w deulu.

“Hoffem hefyd fynegi ein diolch dyfnaf a diffuant i’r holl wasanaethau brys ac i’n teulu yn yr heddlu, sydd wedi sefyll wrth ein hochr yn ystod cyfnod anoddaf ein bywydau.

“Mae’r caredigrwydd, y tosturi, y cariad a’r gefnogaeth ddiwyro rydym wedi’u cael fel teulu wedi golygu mwy i ni nag y gallai geiriau byth ei fynegi. Ni fydd pob neges, ymweliad ac arwydd o gefnogaeth, na phawb sydd wedi sefyll ochr yn ochr â ni, byth yn cael eu hanghofio.

“Yn cael ei garu am byth. Yn cael ei golli am byth. Ein harwr arbennig am byth. Ein Matt a’n Tad.”

Dywedodd teulu PC Tom Clough, a oedd yn 38 oed, ei fod yn “arwr”, a oedd “bob amser yn gwasanaethu’r cyhoedd drwy gydol ei fywyd byr”.

“Ef oedd ein harwr, ac roedd ganddo synnwyr digrifwch gwych,” meddai teyrnged a gafodd ei rhyddhau drwy Heddlu Cleveland. 

“Roedd bob amser yn barod i weithredu pan oedd angen, ac yn fodlon helpu unrhyw un am unrhyw reswm. 

“Fe wnaeth frwydro dros ei wlad gyda balchder er mwyn gwneud y byd yn lle gwell. Roedd bob amser yn gwasanaethu’r cyhoedd drwy gydol ei fywyd byr.

“Hoffem ni fel teulu, ynghyd â phartner Tom, fynegi ein diolch diffuant am y gefnogaeth aruthrol a’r negeseuon o gydymdeimlad gan ffrindiau, cydweithwyr a’r gymuned ehangach.”

Image
Y pum person ifanc fu farw
Y pum person ifanc fu farw

Yn y cyfamser mae Heddlu Cleveland wedi enwi'r pum person ifanc a fu farw yn y car arall fu'n rhan o'r gwrthdrawiad.

Eu henwau oedd Michael Robert Cahill, 23 oed, Theo Rae, 17 oed, Cole Robert Worthy, 16 oed, Jacob Matusiak, 23 oed, a Makai Saddington, 18 oed.

Roedden nhw mewn Volkswagen Passat a oedd yn teithio i’r cyfeiriad anghywir ar y ffordd ddeuol ger Middlesbrough.

Mae Swyddogion Cyswllt Teuluol yn parhau i weithio gyda theuluoedd pawb a fu farw yn y gwrthdrawiad.

'Colled'

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi agor ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad yn South Bank am 03:39. 

Fe ddigwyddodd hynny ar ôl i Heddlu Cleveland gyfeirio’r mater at y corff, fel sy’n ofynnol o dan yr amgylchiadau hyn.

Fe wnaeth swyddogion heddlu weld cerbyd amheus ac fe ddechreuon nhw fynd ar ei ôl cyn i’r car fynd ar yr A66, meddai’r corff gwarchod.

Yn ôl yr IOPC, roedd swyddogion wedi rhoi’r gorau i fynd ar ôl y car eiliadau cyn iddo wrthdaro â'r cerbyd heddlu arall.

Y gred oedd bod y Passat yn defnyddio platiau cofrestru ffug, gan sbarduno systemau adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR).

Mewn datganiad brynhawn Sadwrn, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland, Victoria Fuller (uchod): “Roedd y rhain yn swyddogion dewr a oedd yn diogelu ein cymunedau ac yn gwasanaethu ein trigolion.

“Wnaethon nhw ddim dychwelyd adref at eu teuluoedd ar ddiwedd eu sifft.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Andy Burnham, ei fod wedi’i lorio o glywed am y gwrthdrawiad.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, wedi dweud ei bod yn meddwl am bawb sydd wedi cael eu heffeithio.

Wrth sôn am y ddau heddwas a fu farw, dywedodd Anna Turley, AS etholaeth Redcar lle digwyddodd y gwrthdrawiad: “Fe aethon nhw i’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel, ac fe ddylen nhw fod wedi dychwelyd adref at eu teuluoedd.

“Bydd eu hanwyliaid, eu cyd-swyddogion a’r cymunedau roedden nhw’n eu gwasanaethu yn teimlo eu colled yn fawr.”

Image
Safle y gwrthdrawiad
Safle y gwrthdrawiad

'Peryglu popeth'

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd Maer Tees Valley, y Barwn Ben Houchen: "Digwyddiad erchyll a thrasig yn South Bank y bore yma. 

"Mae fy meddyliau gyda’r rheini sydd wedi’u heffeithio, eu teuluoedd a’r gwasanaethau brys a aeth i’r digwyddiad.

"Mae ein swyddogion heddlu yn arwyr sy’n peryglu popeth i’n diogelu. Rydw i’n gwybod y bydd pawb ar draws Teesside am roi teyrnged i’r swyddogion a gweithwyr eraill y gwasanaethau brys am y dewrder maen nhw wedi’i ddangos wrth ymateb i’r digwyddiad hwn."

Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cleveland, Lauren Somerville: "Ni all geiriau ddisgrifio’r boen y mae teulu Heddlu Cleveland yn ei theimlo heddiw.

"Dydy ein cydweithwyr, a ddylai fod wedi mynd adref at eu hanwyliaid ar ddiwedd eu sifftiau, ddim yn mynd adref. Mae hynny’n gwbl annirnadwy."

Fe wnaeth heddluoedd eraill anfon eu cydymdeimlad ar ôl y drasiedi.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae ein meddyliau gyda'n cydweithwyr yn Cleveland a gyda'r holl rai a effeithiwyd gan y digwyddiad yng nghynnwrf y bore yma."

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, Melanie Jones: "Mae colli dau swyddog ymroddedig wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau yn cael ei deimlo’n ddwfn ar draws teulu cyfan yr heddlu.

"Rydw i wedi cysylltu’n bersonol â’r Prif Gwnstabl Victoria Fuller heddiw i fynegi ein cydymdeimlad diffuant.

"Mae ein meddyliau’n gadarn gyda theuluoedd ac anwyliaid y rheini sydd wedi colli eu bywydau, yn ogystal â chydweithwyr yn Heddlu Cleveland, yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Sussex, Jo Shiner, y byddai "effaith y drasiedi hon yn cael ei theimlo gan lawer o bobl ledled y wlad".

Gorchymyn

Fore Sul, roedd yr A66 ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Normanby Road a Church Lane yn Eston.

Mae unedau diwydiannol mawr i’r gogledd o’r rhan o’r ffordd sydd ar gau. Mae hefyd yn agos at safle mawr Teesworks.

Mae gorchymyn Adran 60, sy’n rhoi rhagor o bwerau stopio a chwilio i swyddogion, mewn grym ger safle’r gwrthdrawiad tan 19:15 ddydd Sul.

Mae’n cwmpasu ardal o amgylch dwyrain Cargo Fleet Lane, hyd at Normanby Road, ar hyd Longlands Road a’r Trunk Road tua’r de hyd at Ormesby Road.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.