Arolwg barn arbennig ar gyfer Newyddion S4C yn awgrymu bod Reform ar y blaen
Arolwg barn arbennig ar gyfer Newyddion S4C yn awgrymu bod Reform ar y blaen
Mae arolwg barn newydd wedi ei gomisiynu gan Newyddion S4C a Phrifysgol Aberystwyth yn awgrymu bod Reform UK ar y blaen yn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Mae’r arolwg gan gwmni Survation yn awgrymu bod Reform ar 29.6% o’r bleidlais. Mae Plaid Cymru yn yr ail safle ar 27.8%.
Er bod tri arolwg dros y misoedd diwethaf wedi dangos Plaid Cymru a Reform benben, dyma’r cyntaf ers dechrau mis Chwefror i ddangos Reform ar y blaen.
Mae’r arolwg yn awgrymu bod Llafur yn drydydd ar 15.4% o’r bleidlais, y Ceidwadwyr yn bedwerydd ar 10% a’r Blaid Werdd yn bumed o drwch blewyn ar 9.9%.
Mae’r olaf o’r prif bleidiau, y Democratiaid Rhyddfrydol, ar 3.6%, gyda’r pleidiau eraill hefyd ar gyfanswm o 3.6%.
Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, a arweiniodd y dadansoddiad o'r arolwg barn: “Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu tirwedd wleidyddol hynod gystadleuol cyn etholiad y Senedd, gyda dwy blaid ar hyn o bryd yn arwain o ran bwriad pleidleisio."
Fe wnaeth Survation holi 1065 o bobl dros 16 oed fel rhan o’r arolwg, rhwng 17 a 23 Ebrill 2026.
Iaith a hunaniaeth
Yn ogystal â holi am oed a lleoliad ymatebwyr, fe wnaeth yr arolwg hefyd holi am eu gallu i siarad Cymraeg a’u hunaniaeth genedlaethol.
Wrth ddadansoddi’r canlyniadau, dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth fod yna dystiolaeth fod iaith a hunaniaeth yn dylanwadu ar bleidleisiau unigolion.
“Pan ydyn ni’n ystyried dewis pleidlais drwy lens hunaniaeth genedlaethol, mae cysylltiad clir rhwng a yw pleidleiswyr yn teimlo’n fwy neu’n llai Prydeinig/Cymreig a phwy maen nhw’n dweud y byddan nhw’n pleidleisio drosto,” meddai.
“Mae’r rhai sy’n uniaethu’n fwy Prydeinig yn fwy tebygol o gefnogi Reform a’r Ceidwadwyr Cymreig ac, i raddau llai, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Mewn cyferbyniad, mae’r rhai sy’n uniaethu’n fwy Cymreig yn dangos cefnogaeth gryfach i Blaid Cymru.
“Mae cefnogaeth i Lafur Cymru a’r Gwyrddion wedi’i lledaenu’n fwy cyfartal ar draws y gwahanol gategorïau hunaniaeth genedlaethol."
“Pan ystyrir hyn drwy lens iaith, canfyddiad allweddol yw bod yr holl bleidiau gwleidyddol yn denu cefnogaeth gan ymatebwyr â gwahanol lefelau o ruglder yn y Gymraeg — er i raddau gwahanol a chyferbyniol," meddai Dr Anwen Elias.
“Er enghraifft, er bod y rhan fwyaf o bleidleiswyr sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n weddol dda yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio dros Blaid Cymru, mae’r blaid hefyd yn denu rhywfaint o gefnogaeth gan y rhai sy’n siarad ychydig o Gymraeg (31.8%) neu ddim Cymraeg o gwbl (20.7%).
“Mae’r gwrthwyneb yn wir am Reform: er bod y rhan fwyaf o’i chefnogaeth yn dod gan ymatebwyr sy’n siarad ychydig o Gymraeg neu ddim Cymraeg o gwbl, mae hefyd yn cael ei chefnogi gan ymatebwyr sy’n siarad Cymraeg yn weddol dda (16.3%) neu’n rhugl (20.0%).”
Pwy sydd am bleidleisio?
Un cwestiwn allweddol yn yr etholiad, a allai benderfynu’r canlyniad yn y pen draw, yw pwy fydd yn dewis pleidleisio ar y diwrnod.
Nid yw cyfran yr etholwyr sy’n pleidleisio erioed wedi croesi 50% ers dechrau datganoli yn 1999.
Er bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr (74.0%) yn dweud eu bod yn debygol o bleidleisio ar 7 Mai, mae pobl ifanc a menywod yn gymharol llai tebygol o wneud hynny.
Mae’n ymddangos felly y bydd perswadio’r grwpiau hyn i fwrw eu pleidlais yn her allweddol i bleidiau gwleidyddol, meddai Dr Anwen Elias.
Er bod dros 89% o’r rhai 65 oed a hŷn yn dweud eu bod yn debygol o bleidleisio, mae’r gyfradd hon yn gostwng yn raddol yr ieuengaf yw’r person sy'n ymateb.
Dim ond 60% o’r rhai 16–24 oed sy’n dweud eu bod yn debygol o wneud hynny, tra dywedodd 10% o bobl yn y categori oedran hwn na fyddent yn pleidleisio o gwbl.
Yn ôl yr arolwg, mae Reform ar y blaen o drwch blewyn ymysg y rheini sy’n dweud eu bod nhw’n debygol o bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Beth yw’r pynciau pwysicaf yn yr etholiad?
Roedd yr arolwg yn gofyn i bobl ddweud beth oedd y tri mater pwysicaf wrth benderfynu ar eu pleidlais.
Costau byw (67%), a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal iechyd (64.3%), ddaeth i'r amlwg fel y materion pwysicaf o bell ffordd.
Yna roedd mewnfudo (39.4%), er nad yw’n bwnc y mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth drosto.
Yn bedwerydd roedd yr economi yn gyffredinol (31.3%), ac yna tai ar 17.2%.
Dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Fe wnaeth yr arolwg hefyd holi am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Mae’r arolwg yn awgrymu bod chwarter (25.6%) yn credu y dylai’r Senedd gadw’r pwerau sydd ganddi ar hyn o bryd.
Mae bron i chwarter (23.1%) am i’r Senedd gael mwy o bwerau datganoledig nag sydd ganddi ar hyn o bryd, ac mae 13.1% am weld Cymru’n annibynnol.
Ar ben arall y sbectrwm cyfansoddiadol, mae lleiafrif clir sy’n cefnogi diddymu’r Senedd yn gyfan gwbl (16.2%) neu leihau ei phwerau o gymharu â’r hyn sydd ganddi ar hyn o bryd (7.3%).
O’u cymryd gyda’i gilydd, mae bron i chwarter y bobl yn teimlo bod gan y Senedd ormod o bwerau.
Ymateb
Mae Newyddion S4C wedi holi pob un o’r prif bleidiau am eu hymateb.
Dywedodd ffynhonnell o Lafur Cymru: “Mae’r arolwg hwn yn dangos rhwystredigaeth pobl, ond mae angen atebion ar Gymru, nid sloganau.
“Y gwir ddewis yn yr etholiad nesaf yw rhwng cynllun difrifol ar gyfer y GIG a gostwng costau byw, neu bleidiau sy’n cynnig atebion hawdd na fyddant yn cyflawni.
“Mae Llafur Cymru yn cynnig pennod newydd i Gymru: camau ymarferol i wella bywydau pobl a thegwch y gall pobl ei deimlo, a dyna’r dewis y byddwn ni’n ei gyflwyno i bleidleiswyr yn y dyddiau nesaf.”
Dywedodd llefarydd ar ran Reform: “Mae gan Reform yr holl fomentwm yng Nghymru.
“Er ein bod yn agos at sicrhau newid go iawn i Gymru, mae pleidiau’r sefydliad wedi ei gwneud yn glir y byddant yn ceisio ein rhwystro.
“Felly ar 7 Mai mae angen i ni sicrhau canlyniad sy’n rhy fawr i’w anwybyddu.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru: “Y realiti yw bod polau piniwn wedi bod yn anghyson ac yn amrywio’n sylweddol o un i’r llall. Yr unig arolwg sy’n cyfrif yn y pen draw yw’r un sy’n digwydd ar ddiwrnod yr etholiad.
“Rydym yn cydnabod bod arolygon barn yn mynd a dod, ond yr hyn sy’n bwysig yw’r hyn y mae pobl yn ei brofi o ddydd i ddydd yng Nghymru.
“Ar ôl dros ddau ddegawd o Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, mae’n glir bod gormod o gymunedau’n teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan y drefn bresennol, gyda phwysau ar y GIG, addysg a’r economi yn parhau i dyfu.
“Bydd Ceidwadwyr Cymru yn parhau i gyflwyno ein cynllun credadwy i dorri trethi, trwsio gwasanaethau cyhoeddus, sbarduno ein heconomi, a rhoi Cymru ar waith.”
Nid yw Plaid Cymru na'r Blaid Werdd wedi ymateb i gais am sylw eto.