Arestio'r ymgyrchydd asgell dde Danny Tommo am 'ddifrodi cwch mudwyr'

Danny Tommo

Mae'r ymgyrchydd asgell dde Danny Tommo wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd ei arestio mewn garej nos Fercher wedi i fideo ymddangos ohono yn difrodi cwch dinghy yn honedig.

Roedd y cwch wedi cludo mudwyr ar draws y Sianel o Ffrainc ddydd Mawrth cyn i swyddogion o'r RNLI ei gwagio a hebrwng y teithwyr yn ddiogel i'r lan.

Enw llawn Danny Tommo yw Daniel Thomas ac mae'n un o gefnogwyr mwyaf brwd Tommy Robinson yn ei ymgyrch yn erbyn y cychod bach sydd yn cludo mudwyr i Brydain.

Roedd Mr Thomas yn gyfrifol am drefnu protest ym mhorthladd Dover yn erbyn y cychod bach yn ddiweddar, pan ddaeth cannoedd o ddynion mewn du ac yn gwisgo mygydau balaclafas i darfu ar draffig yn y porthladd.

Mae ymchwiliad Heddlu Hampshire yn edrych ar honiadau fod Mr Thomas wedi rhwygo ochr y dinghy tra'r oedd gweithiwr o'r gwasanaethau brys ar ei bwrdd, wedi i'r mudwyr adael.

Dywedodd y llu fod chwech o ymgyrchwyr wedi eu harestio ym mhorthladd Gosport, wedi i gannoedd o brotestwyr deithio yno gan gredu mewn camgymeriad fod cwch oedd yn cludo mudwyr yn cael ei chyfeirio yno.

Mae ymgyrch Mr Thomas i geisio atal y cychod bach wedi derbyn cryn sylw a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd diwethaf.

Llun: Youtube Danny Tommo

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.