Rhyddhau pump a gafodd eu harestio wedi gêm rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru Y Fflint a Dinas Bangor 1876

Rhyddhau pump a gafodd eu harestio wedi gêm rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru Y Fflint a Dinas Bangor 1876

Mae pump o bobl a gafodd eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn dilyn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Fflint a Dinas Bangor 1876 ddydd Sadwrn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cadarnhaodd yr heddlu hynny ddydd Llun gan nodi bod eu hymholiadau'n parhau.

Cafodd fideos eu rhannu yn helaeth ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl y gêm, lle roedd hi'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng heddlu a chefnogwyr yn Llandudno.

Dywedodd Clwb Dinas Bangor 1876 eu bod nhw "yn ymwybodol o ddigwyddiad a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â chadeirydd y clwb".

"Rydym yn deall bod y mater yn destun camau gweithredu gan Heddlu Gogledd Cymru sydd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, felly, ar hyn o bryd, nid yw'r clwb yn gallu gwneud sylwadau pellach," medden nhw.

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau enwau y rhai a gafodd eu harestio.

Y Fflint oedd yn fuddugol yn y gêm, gan guro Dinas Bangor 1876 5-1 yn Llandudno.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod swyddogion wedi cael eu galw am 15:59 i ddigwyddiad o anhrefn sylweddol yn ymwneud â nifer fawr o bobl y tu allan i dafarn Nevill ar Stryd Vaughan yn Llandudno. 

Fe gafodd pump o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, achosi niwed corfforol ac ymosod ar weithiwr brys. 

Ychwanegodd y llu fod hwn yn parhau yn ymchwiliad byw, gan gynnwys adolygu deunydd fideo a CCTV. 

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymwybodol o ddiddordeb sylweddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhannu fideos yn eang gan bobl oedd yn bresennol.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â recordiodd yr anhrefn i anfon y fideo atyn nhw er mwyn eu cynorthwyo yn eu hymchwiliadau. 

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 0035019.

'Niweidio profiad positif'

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Fe gafodd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru JD rhwng Y Fflint a Dinas Bangor 1876 ei chwarae heb unrhyw ddigwyddiad. 

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o anhrefn honedig yng nghanol tref Llandudno wedi i'r gêm ddod i ben, ac er fod hyn yn disgyn y tu allan i awdurdodaeth y gymdeithas, fe fyddwn ni'n cefnogi ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru os bydd angen.

"Roedd rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru ei hun yn ddigwyddiad cadarnhaol ar gyfer pêl-droed yng Nghymru. Nid oes lle i drais mewn pêl-droed ac mae'n niweidio'r profiad cadarnhaol y mae'r mwyafrif yn ei fwynhau."

Yn eu datganiad nhw fe ychwanegodd Clwb Dinas Bangor 1876 eu bod nhw "wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi a bydd yn dilyn y prosesau hynny os bydd angen".

"Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu os a phan fo'n briodol, a hyd at hynny ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylwadau pellach," meddai'r clwb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.