Arestio pedwar ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth merch dri mis oed
Mae pedwar person wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth merch dri mis oed oedd yn gwersylla â’i theulu.
Cafodd swyddogion Heddlu Sir Stafford eu galw i wersyll mewn coetir yn Sir Stafford fore Sadwrn.
Fe gafodd swyddogion eu galw yno gan Wasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr ar ôl cael adroddiad bod calon plentyn wedi stopio curo.
Bu farw’r ferch yn y lleoliad yn Great Wyrley.
Mae’r llu bellach wedi arestio dyn 42 oed a dynes 30 oed o Sir Stafford, dynes 20 oed o Wolverhampton a dyn 18 oed o Walsall ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae’r pedwar wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’n parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Josh Lee: “Er y gallwn gadarnhau bod y pedwar person wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, rydym yn dal i weithio’n galed i gasglu rhagor o dystiolaeth ac rydym yn cadw meddwl agored ynghylch amgylchiadau’r farwolaeth yn ystod y cyfnod cynnar hwn.
"Rydym yn trin hwn fel digwyddiad unigol.
“Cafodd y pedwar person eu harestio yn lleoliad y digwyddiad ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.”