Arestio dynes yn Wrecsam fel rhan o ymchwiliad i gludo mudwyr o Fietnam

NCA

Mae dynes yn Wrecsam wedi cael ei harestio fel rhan o ymchwiliad i weithgareddau grŵp troseddol sydd dan amheuaeth o gludo mudwyr o Fietnam i'r DU mewn lorïau a chychod bach.

Arestiodd swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) fenyw 25 oed yn Wrecsam fore Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw hefyd wedi arestio dyn 25 oed yn Newcastle-upon-Tyne a dyn 26 oed yn Birmingham.

Ar yr un pryd mae heddlu yn Ffrainc wedi arestio 16 o bobl mewn cyrchoedd ym Mharis, gyda chefnogaeth cydweithwyr o Europol, Eurojust a heddlu ffederal Gwlad Belg.

Fe wnaethon nhw hefyd ddarganfod 41 o fudwyr, gan gynnwys 11 mewn un adeilad yno.

Mae'r fenyw a arestiwyd yn Wrecsam dan amheuaeth o gynorthwyo'r grŵp trwy wyngalchu arian.

Mae'r grŵp troseddol yn cael ei amau ​​o ddod a mewnfudwyr ar awyrennau masnachol o Fietnam i ganol a dwyrain Ewrop, cyn eu symud ymlaen i Ffrainc ac yna i'r DU ar gychod bach a lorïau.

Dywedodd Alex Cruise, Uwch Swyddog Ymchwilio’r NCA bod yr arestiadau hyn “yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn Ffrainc”. 

“Mae teithiau o’r fath yn rhoi’r rhai sy’n cael eu symud mewn perygl mawr,” meddai.

“Mae mynd i’r afael â smyglo pobl yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i’r NCA, ac mae hwn yn un o tua 100 o ymchwiliadau parhaus sy’n targedu grwpiau neu unigolion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â threfnu teithiau, neu’r rhai sy’n hwyluso’r drosedd honno.

“Mae ein hymchwiliad yn parhau wrth i ni ystyried y dystiolaeth a gasglwyd gennym heddiw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.