Arestio dynes 29 oed ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol wedi i chwe chartref losgi

Arestio dynes 29 oed ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol wedi i chwe chartref losgi

Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol wedi i chwech o gartrefi gael eu difrodi mewn pentref yn Sir Caerffili ddydd Mercher.

Cafodd rhai o'r tai yn ardal Cefn-y-pant yn Nhrecelyn eu dinistrio'n llwyr gan y fflamau, a bu'n rhaid i 32 o gartrefi gael eu gwagio.

Does dim sôn bod unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent brynhawn Iau bod dynes 29 oed o Drecelyn wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol a'i bod bellach yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân ac achub lleol.

Wrth gyhoeddi bod y fenyw wedi cael ei harestio, dywedodd John Davies, Prif Uwcharolygydd Heddlu Gwent, bod dim cysylltiad rhwng y tân a thanau gwyllt sydd wedi bod yn llosgi yn yr ardal ehangach.

"Rydym yn deall bod sawl tân gwyllt yn parhau ar draws y wlad, ond hoffwn ei gwneud yn glir nad ydym yn credu bod cysylltiad rhwng y tân hwn ag unrhyw danau gwyllt eraill," meddai.

Ychwanegodd bod y tân "wedi achosi niwed sylweddol i sawl eiddo preswyl, fydd yn cael effaith drychinebus ar y gymuned leol."

'Torcalonnus'

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Gefn-y-pant toc cyn 16.00 ddydd Mercher yn dilyn tân mewn tŷ yno.

Cafodd 12 injan dân eu hanfon i’r lleoliad wrth i'r tân ymledu i dai a gerddi cyfagos, gyda ffyrdd yn cael eu cau a thrigolion yn gorfod gadael eu cartrefi.

Amser cinio ddydd Iau fe ddisgrifiodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, y golygfeydd fel rhai "torcalonnus". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.