Arestio dyn ar ôl i ddau o bobl gael eu trywanu yn Llundain, meddai grŵp diogelwch Iddewig

Llun: Lucy North/PA
Ffordd Golders Green

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddau o bobl gael eu trywanu yn Golders Green yng ngogledd-orllewin Llundain, meddai grŵp diogelwch Iddewig.

Cafodd y dyn ei weld yn rhedeg ar hyd Ffordd Golders Green yn y ddinas gyda chyllell ac yn "ceisio trywanu aelodau Iddewig o'r cyhoedd", meddai Shomrim mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher.

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y dyn ei gadw gan aelodau'r grŵp cyn i swyddogion yr heddlu ei atal gyda gwn taser a'i arestio.

Mae Shomrim wedi adrodd fod dau berson wedi cael eu trywanu.

Maen nhw'n cael eu trin gan Hatzola, sef y gwasanaeth ambiwlans cymunedol Iddewig sy'n gweithredu yn Golders Green.

Daw'r ymosodiad ddydd Mercher ar ôl i bedwar ambiwlans Hatzola gael eu rhoi ar dân yn fwriadol ym mis Mawrth.

Mewn datganiad ar X, dywedodd yr elusen Iddewig yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol: "Bu ymosodiad â chyllell heddiw yn Golders Green. 

"Mae’r unigolyn sy'n cael ei amau wedi cael ei arestio. Hoffem ddiolch i @shomrimlondon, @Hatzola a @metpoliceuk am eu hymateb cyflym.

"Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu, Shomrim a CST ar unwaith."

Ychwanegodd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad trywanu yn Golders Green, gyda dau wedi’u hanafu. Mae’r heddlu wedi dal rhywun dan amheuaeth.

"Rydym yn cysylltu â’r CST, y Llywodraeth a’r heddlu i ddeall beth sydd wedi digwydd a sicrhau ymateb cadarn."

'Peri pryder mawr'

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ei fod wedi cael gwybod am y digwyddiad cyn mynd i Gwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd wrth ASau: "Mae’n peri pryder mawr i bawb yn y Tŷ hwn.

"Mae ymchwiliad heddlu ar y gweill nawr ac rwy’n credu bod angen i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r ymchwiliad hwnnw a bod yn gwbl glir yn ein penderfyniad i ddelio ag unrhyw un o’r troseddau hyn, yr ydym wedi gweld gormod ohonynt yn ddiweddar."

Dywedodd Sarah Sackman, yr AS dros Finchley a Golders Green: "Mae ymosodiadau ar Iddewon Prydain yn ymosodiad ar Brydain ei hun."

Dywedodd Maer Llundain, Syr Sadiq Khan: "Bu ymosodiad erchyll ar ddau Lundainwr Iddewig yn Golders Green.

"Mae cymuned Iddewig Llundain wedi bod yn darged cyfres o ymosodiadau gwrth-Semitaidd brawychus.

"Mae'n rhaid sicrhau nad oes lle o gwbl i wrth-Semitiaeth mewn cymdeithas."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.