Arestio dyn am danio ergydion mewn digwyddiad lle'r oedd Donald Trump yn bresennol
Cafodd yr Arlywydd Donald Trump ei ruthro o ginio gohebwyr y Tŷ Gwyn yn Washington DC nos Sadwrn ar ôl i ergydion gael eu tanio tu allan i'r neuadd.
Cafodd un swyddog o’r gwasanaethau diogelwch ei saethu ond cafodd ei achub gan ei fest gwrth-fwled, meddai Mr Trump.
Cafodd y dyn dan amnheuaeth ei enwi fel Cole Tomas Allen, 31 oed, o Galiffornia.
Mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo’n ffurfiol mewn llys ddydd Llun.
Roedd wedi rhuthro trwy’r fynedfa cyn cael ei ddal gan y swyddogion diogelwch.
Dywedodd yr heddlu fod ganddo ddryll, gwn llaw a sawl cyllell yn ei feddiant.
Roedd cannoedd o bobl mewn ystafell yng nghwesty’r Hilton ar gyfer cinio gohebwyr Washington DC ar y pryd.
Dywedodd Mr Trump wrth ohebwyr yn ddiweddarach: "Ni allaf ddychmygu unrhyw broffesiynau sy'n fwy peryglus."
Dyma’r trydydd ymgais ar fywyd Mr Trump.
Dywedodd Mr Trump ei fod yn meddwl fod hambwrdd wedi cwympo pan glywodd y sŵn ond bod ei wraig Melania wedi dweud fod y sŵn yn “ddrwg”.
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi anfon neges o undod at Donald Trump ar ôl y digwyddad.
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog Darren Jones wrth Sky News fore Sul: “Mae'r rhain yn olygfeydd rhyfeddol. Mae'r Prif Weinidog, y bore yma, wedi anfon neges at arlywydd yr Unol Daleithiau mewn undod â'r digwyddiadau a ddigwyddodd.
“Fel y byddech chi'n dychmygu, gydag ymweliad Ei Fawrhydi y Brenin yr wythnos hon, mae ein timau'n gweithio'n agos i sicrhau bod trefniadau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith yn briodol.”
Llun: Truth Social/Donald Trump
