Arestio dau ddyn ar ôl i feiciwr modur ddioddef anafiadau difrifol

Comin Bargod

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar ôl i feiciwr modur ddioddef anafiadau difrifol ym Margod yng Nghwm Rhymni.

Cafodd yr heddlu adroddiad am wrthdrawiad ar ffordd comin Gelligaer, Bargod am tua 19.50 ddydd Mawrth.

Fe aeth swyddogion i’r lleoliad ynghyd â pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Ambiwlans Awyr.

Roedd beic modur a char yn rhan o’r gwrthdrawiad; cafodd y beiciwr modur ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae dyn 48 oed a dyn 34 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o yrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru dan ddylanwad cyffuriau, ac achosi niwed corfforol difrifol.

Mae’r ddau ddyn yn parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd, meddai’r heddlu brynhawn Mercher.

Byddai swyddogion sy’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad yn hoffi siarad ag unrhyw yrwyr oedd yn teithio ar y ffordd, neu’n agos at yr ardal, ac a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad rhwng 19.30 ac 20.00 ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Mae swyddogion hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod â ffilm dashcam neu deledu cylch cyfyng o gar a beic modur yn ardal tref Bargod rhwng 19.30pm ac 20.00.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu, ffoniwch 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600198256, neu anfonwch neges uniongyrchol at yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.