Arestio dau ddyn ifanc yn dilyn ymosodiad â chleddyf

Tuffley

Mae dau ddyn ifanc wedi eu harestio ar ôl adroddiadau bod dau fachgen 17 oed wedi eu bygwth â chleddyf ger ysgol Gatholig yng Nghaerloyw.

Cafodd swyddogion Heddlu Swydd Gaerloyw eu galw i Chalford Road, ger Ysgol Uwchradd St Peter’s yn ardal Tuffley, ychydig ar ôl 8.50 ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu fod un dyn 19 oed wedi’i arestio dros nos, a bod yr ail ddyn yn 18 oed wedi mynd â’i hun at yr heddlu fore Sadwrn. 

Fe gafodd un o’r bechgyn ei grafu gan gleddyf, a ni wnaeth yr ail fachgen brofi unrhyw anafiadau corfforol, meddai'r heddlu.

Fe aeth swyddogion arfog i’r lleoliad i chwilio am y rhai dan amheuaeth, a oedd yn ôl adroddiadau wedi rhedeg i ffwrdd.

Dywedodd Heddlu Swydd Gaerloyw fod menyw, a gafodd ei harestio ddydd Gwener ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bo ymholiadau pellach yn parhau.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.