Arestio dau ddyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic yng Ngorseinon
Arestio dau ddyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic yng Ngorseinon
Mae dau ddyn 18 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol rhwng car a beic yng Ngorseinon, Abertawe ddydd Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Pen Cae Crwn, Gorseinon, Abertawe, am 12:58 brynhawn ddydd Iau.
Cafodd parafeddygon eu galw i safle'r gwrthdrawiad, ond bu farw dyn 18 oed yn y fan a'r lle.
Fe gafodd dyn arall 19 oed ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans gyda mân anafiadau.
Mae dyn 18 oed o Dreforys wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, gyrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru cerbyd modur pan oedd yn anaddas i yrru oherwydd cyffuriau, a gyrru cerbyd modur gyda chyfran o gyffur rheoledig penodedig yn uwch na’r terfyn penodedig.
Mae dyn 18 oed o Gorseinon hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, o dan Adran 18.
Mae’r ddau ddyn yn y ddalfa ar hyn o bryd, meddai’r heddlu.
Mae’r holl ffyrdd a gafodd eu cau ar ôl y digwyddiad brynhawn ddoe bellach wedi ailagor, ac eithrio’r lôn sy’n rhedeg wrth ymyl Ffordd Cecil.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Danielle Thorne, o’r Tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol bod eu “meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau gyda theulu ac anwyliaid y rhai oedd yn rhan o’r digwyddiad hwn”.
“Rydym yn darparu cymorth arbenigol ac yn gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod hynod drallodus hwn,” medden nhw.
“Hoffwn ddiolch i bobl Gorseinon, ac i’r rhai a welodd y digwyddiad neu sydd wedi bod yn agos at y safle, am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei rhoi i’n swyddogion yn ystod yr ymchwiliad.
“Mae hynny wedi cynnwys darparu dŵr ac eli haul. Mae ein swyddogion yn ddiolchgar iawn.
“Rydym yn ymwybodol bod ffilm o’r digwyddiad yn cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn gofyn i bobl beidio â’i rhannu am resymau amlwg.
“Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac mae’n debygol y bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal am gryn amser.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion sydd heb siarad â swyddogion eto, neu unrhyw un sydd â ffilm camera car, teledu cylch cyfyng neu gamera cloch drws, i gysylltu.