Adroddiad diogelu Cyngor Gwynedd yn ‘wan’, medd cyfreithwraig sy'n cynrychioli goroeswyr Neil Foden
Mae cyfreithwraig sy’n cynrychioli nifer o bobl sy'n dweud eu bod yn ddioddefwyr y pedoffeil a’r cyn-bennaeth Neil Foden wedi beirniadu adroddiad diweddaraf Cyngor Gwynedd ar ddiogelu.
Dywedodd Katherine Yates bod yr adroddiad yn "ymddangos yn wan" ac yn cynnwys argymhellion yn hytrach na chamau gweithredu pendant.
Daw ei sylwadau mewn ymateb i adroddiad yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Gwynedd i drefniadau diogelu yn ysgolion y sir, yn sgil achos Neil Foden.
Cafodd y pedoffeil a'r cyn-bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ei garcharu am 17 o flynyddoedd yn 2024 am gam-drin merched ifanc yn rhywiol.
Dywedodd Ms Yates, sy'n bartner yng nghwmni Andrew Grove & Co Solicitors yng Nghaergrawnt, fod yr adroddiad yn cynnwys "bron yn gyfan gwbl" sylwadau am yr hyn "ddylai" ddigwydd, yn hytrach na’r hyn "sy’n rhaid" digwydd.
"Nid yw'r adroddiad hwn yn dweud dim nad oeddem eisoes yn ei wybod," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'n ymddangos yn wan ac yn brin o gyfeiriad tuag at weithredu gwirioneddol."
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod yr adroddiad yn "werthfawr ac yn ddarn pwysig arall o waith i’n cynorthwyo i sicrhau’r trefniadau diogelu gorau posib yma yng Ngwynedd."
Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd ar 14 Gorffennaf, lle bydd aelodau yn ystyried os ydynt yn derbyn yr awgrymiadau.
Os bydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, dywedodd y cyngor y bydd yr adrannau a’r gwasanaethau perthnasol yn gweithredu ar yr argymhellion.
Yn ôl Ms Yates, mae’n "rhaid i Gyngor Gwynedd roi diwedd ar yr oedi".
"Mae gormod o achosion o gam-drin plant wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf mewn ysgolion yng Nghymru i ni dderbyn adroddiad arall heb unrhyw gamau gweithredu," meddai.
"Mae angen i Gyngor Gwynedd ddangos mwy o ddewrder a phenderfyniad, a phwyso'n gryfach am gamau sylweddol a pharhaol a fydd wir yn cael effaith."
'Angen ateb gwell'
Mae Ms Yates hefyd wedi dweud fod yr adroddiad yn codi cwestiynau am rôl llywodraethwyr ysgolion mewn materion diogelu.
Mae'r adroddiad yn nodi fod rhai llywodraethwyr yn ansicr o hyd am le y dylid troi iddo os oes pryderon diogelu yn codi am benaethiaid ysgolion.
Dywedodd yr awduron fod trafodaethau gyda llywodraethwyr wedi amlygu "teimlad o fod allan o'u dyfnder" wrth ymdrin â'r disgwyliadau a'r cyfrifoldebau sy'n perthyn i'r rôl, gan nodi mai "pobl leyg" ydynt.
Ychwanegodd yr adroddiad fod y sefyllfa'n gallu bod yn fwy cymhleth fyth pan mae cwyn neu bryder diogelu yn ymwneud â'r pennaeth ei hun.
Dywedodd Ms Yates fod angen newid y drefn er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ac atebolrwydd ar draws ysgolion.
"Er ein bod yn canmol y gwaith aruthrol gan wirfoddolwyr di-dâl, mae angen ateb gwell i sicrhau bod polisïau diogelu'n cael eu gweithredu'n gyson ym mhob ysgol yng Ngwynedd," meddai.
"Mae achos Foden yn dangos y perygl o ddibynnu ar lywodraethwyr, sy'n aml allan o’u dyfnder wrth ymdrin â materion diogelu hynod gymhleth."
Fe aeth ymlaen i ddweud ei bod yn croesawu argymhelliad yr ymchwiliad i Lywodraeth Cymru ystyried deddfu er mwyn cryfhau atebolrwydd a safoni trefniadau ar gyfer adrodd pryderon.
"Dylai hyn fod wedi cael ei ystyried fel y prif argymhelliad," meddai.
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Prif flaenoriaeth Cyngor Gwynedd yw sicrhau na fydd y methiannau a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn cael eu hailadrodd fyth eto.
“Yn Ionawr 2025, mabwysiadwyd Cynllun Ymateb gan y Cyngor er mwyn adolygu a chryfhau pob agwedd o faterion llesiant a diogelu plant o fewn y sir.
"Yna, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn Nhachwedd 2025, adolygwyd ac ail-luniwyd y Cynllun i adlewyrchu argymhellion yr awduron, sy’n arbenigwyr annibynnol cydnabyddedig.
“Mae Bwrdd Ymateb yn arwain, craffu a herio’r gwaith o weithredu Cynllun Ymateb y Cyngor. Mae’r Bwrdd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Sally Holland, sy’n awdurdod annibynnol mewn diogelu plant ac yn gyn-Gomisiynydd Plant Cymru.
"Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnwys arsylwyr o nifer o gyrff eraill sy’n arwain yn y maes diogelu plant, gan gynnwys, Estyn, swyddfa’r Comisiynydd Plant, yr Arolygaeth Gofal a Llywodraeth Cymru.
“Mae adroddiad yr Ymchwiliad Craffu yn werthfawr ac yn ddarn pwysig arall o waith i’n cynorthwyo i sicrhau’r trefniadau diogelu gorau posib yma yng Ngwynedd.
"Tra ei fod yn rhan bwysig o’n hymateb, mae ein Cynllun Ymateb cyflawn wedi ei gyhoeddi ar ddechrau 2025 ac wedi ei ddatblygu’n sylweddol yn sgil yr Adolygiad Ymarfer Plant. Rydym yn falch ein bod wedi gallu gwneud cynnydd da ers ei gyhoeddi.
“Bydd adroddiad yr ymchwiliad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor ar 14 Gorffennaf. Os bydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, bydd adrannau a gwasanaethau perthnasol y Cyngor yn gweithredu ar yr argymhellion.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod dewrder y rhai sydd wedi camu ymlaen i rannu eu profiadau. Rydym wedi ymrwymo i gryfhau trefniadau diogelu ledled Cymru ac i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu er mwyn diogelu plant a phobl ifanc yn well.
“Mae’r adroddiad yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd, ac felly mater i’r Cyngor ydyw i ystyried a phenderfynu ar ei ymateb. Byddwn yn trafod yr adroddiad a’i ganfyddiadau gyda Chyngor Gwynedd drwy’r Grŵp Cynghori Gweinidogol (MAG) yn ddiweddarach y mis hwn.”