Arestio dau ar amheuaeth o esgeuluso plant mewn meithrinfa yng Nghaerffili
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plant yn dilyn pryderon am iechyd a diogelwch mewn meithrinfa yng Nghoed Duon, Caerffili.
Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 49 oed o Gaerdydd a dynes 29 oed o ardal Caerffili wedi cael eu harestio.
Roedd y ddau yn parhau yn nalfa'r heddlu pan gyhoeddwyd y datganiad nos Iau.
Daeth yr arestiadau ar ôl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfeirio pryderon am iechyd a diogelwch mewn meithrinfa ar Stryd y Bont at yr heddlu ddydd Mawrth 3 Tachwedd.
Mae swyddogion heddlu yn cynnal ymholiadau yn y feithrinfa, a dywedodd yr heddlu y bydd mwy o bresenoldeb gan swyddogion yn yr ardal.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gavin Wilkes: "Rydym yn deall bod honiadau o'r fath yn peri gofid ac rydym yn cynnal ymchwiliad trylwyr ar y cyd ag asiantaethau partner.
"Rydym yn ymwybodol o negeseuon sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac er ein bod yn deall diddordeb y cyhoedd yn yr achos hwn, rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu na chyhoeddi unrhyw beth ar-lein a allai effeithio ar yr ymchwiliad.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, cysylltwch â ni'n uniongyrchol."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101, drwy eu gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600359497.
Mae modd cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd.