Arddangosfa newydd yn olrhain taith Dylan Thomas i Iran
Mae arddangosfa newydd yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn taflu goleuni ar daith lai adnabyddus yr awdur i Iran.
Mae Pouring Water on Troubled Oil: Dylan Thomas in Iran yn olrhain taith y llenor a bardd drwy’r wlad yn 1951, ar adeg o newid gwleidyddol mawr ym Mhrydain ac Iran.
Bydd yr arddangosfa i’w gweld ochr yn ochr â phrif arddangosfa’r ganolfan, Love the Words, tan 1 Gorffennaf 2027.
Taith i Iran
Cafodd Dylan Thomas ei gomisiynu gan yr Anglo-Iranian Oil Company, BP erbyn hyn, i ysgrifennu sgript ar gyfer ffilm hyrwyddo.
Teithiodd o Tehran i ddinas olew Abadan yn ne’r wlad, oedd yn gartref ar y pryd i burfa olew fwyaf y byd.
Roedd ei ymweliad yn cyd-daro ag aflonyddwch diwydiannol cynyddol a’r ymgyrch i wladoli diwydiant olew Iran.
Mae’r arddangosfa’n defnyddio deunydd o archifau, ffilmiau ac ysgrifau personol i edrych ar brofiadau Thomas o’r diwydiant olew, cymunedau Prydeinig yn Iran a chymdeithas y wlad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau: “Mae Canolfan Dylan Thomas yn ymroddedig i rannu safbwyntiau newydd ar fywyd a gwaith awdur enwocaf Abertawe, ac mae’r arddangosfa hon yn gwneud yn union hynny.
“Mae Pouring Water on Troubled Oil yn datgelu pennod ddiddorol ym mywyd Dylan Thomas sy’n cael ei hanwybyddu’n aml, wrth edrych hefyd ar themâu ehangach yn ymwneud â diwydiant, gwleidyddiaeth, gwladychiaeth a chysylltiadau rhyngwladol sy’n dal yn berthnasol heddiw.”
Cafodd yr arddangosfa ei datblygu o’r ymchwil y tu ôl i raglen ddogfen o’r un enw gan y gwneuthurwr ffilmiau Nariman Massoumi yn 2023.
Mae Dr Massoumi, o Brifysgol Bryste, wedi cyd-guradu’r arddangosfa gyda Jo Furber, curadur Canolfan Dylan Thomas.
Mae’n cynnwys dogfennau, lluniau, llythyrau, llyfrau nodiadau, ffilmiau a chyhoeddiadau prin o gasgliadau gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau BP, Archif Ysgrifenedig y BBC, Amgueddfa Abertawe a’r Archifau Gwladol.
Wrth galon yr arddangosfa mae rhaglen ddogfen 26 munud o hyd gan Dr Massoumi, sy’n ail-greu taith Thomas drwy luniau, llythyrau a dogfennau o’r archifau.
Mae’r actor Michael Sheen yn lleisio myfyrdodau Dylan Thomas yn y ffilm, sy’n edrych ar ei brofiadau o olew, ymerodraeth a chynnwrf gwleidyddol.
Bydd cyfle hefyd i weld cyfweliad ffilm prin gyda’r awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau o Iran, Ebrahim Golestan.
Cafodd y cyfweliad ei recordio yn Sussex yn 2017, gyda Mr Golestan yn cofio cwrdd â Dylan Thomas yn Abadan.
Mae llythyrau at ei wraig, Caitlin Thomas, yr awdur Americanaidd Pearl Kazin a’i gydymaith llenyddol Oscar Williams hefyd yn datgelu ei sylwadau am Iran ac anawsterau ei fywyd personol.
Mewn un llythyr, disgrifiodd ei rôl yn goeglyd fel helpu i “pour water on troubled oil”, sef y geiriau a ysbrydolodd enw’r arddangosfa.
Er na wnaeth Dylan Thomas gwblhau’r sgript ffilm, ysbrydolodd y profiad raglen radio’r BBC Persian Oil, a gafodd ei darlledu ym mis Ebrill 1951.
Cysylltiad rhwng Cymru ac Iran
Mae’r arddangosfa hefyd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iran drwy’r diwydiant olew.
Roedd olew oedd wedi’i buro yn Abadan yn cael ei gludo i Abertawe a’i brosesu yn Llandarcy, purfa olew gyntaf Prydain, lai na deng milltir o fan geni Dylan Thomas.
Mae lluniau, adroddiadau papur newydd a deunydd am ffrwydrad y tancer Atlantic Duchess yn Abertawe yn 1951 yn dangos cysylltiad diwydiant Cymru â hanes olew, llafur a gwladychiaeth ledled y byd.
Bydd Pouring Water on Troubled Oil: Dylan Thomas in Iran i’w gweld yng Nghanolfan Dylan Thomas tan 1 Gorffennaf 2027.