Arddangos ‘y portreadau cynharaf’ o Gymru am y tro cyntaf

ITV Cymru
Portreadau Rhufeinig

Fe fydd y portreadau cynharaf o unigolion o Gymru yn cael eu harddangos mewn amgueddfa am y tro cyntaf.

Fe gafodd y cerfiadau, sy’n cael eu disgrifio fel “propaganda Rhufeinig”, eu darganfod mewn cae yng Nghaerllion, ger Casnewydd, ger y gaer Rufeinig yno yn 2010.

Y gred yw eu bod yn dyddio o tua 75 OC, gan olygu eu bod wedi bod o dan y ddaear am bron i 2,000 o flynyddoedd.

Am 15 mlynedd, maen nhw wedi bod yn cael eu hastudio gan ymchwilwyr yn islawr Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Ond rŵan, maen nhw’n cael eu harddangos yno i’r cyhoedd am y tro cyntaf.

Dr Mark Lewis, uwch guradur safle Caerllion, ddaeth o hyd i’r cerfiadau, a dywedodd ei fod wedi sylweddoli ar unwaith eu bod yn “hynod o brin”.

Image
Dr Mark Lewis
Dr Mark Lewis

“Dyma ddarganfyddiad unwaith mewn oes,” meddai.

“Dyma’r unig ddarlun o berson sydd wedi’i drechu o’r rhan hon o’r byd. Dyma’r unig un o Gymru.

“A phan wnes i ei droi drosodd, roedd rhywfaint o fwd arno, ond roeddwn i’n gallu gweld ei wyneb yn syllu’n syth yn ôl arna i.

“Ac ar unwaith, fe ddywedais i: ‘Mae angen i ni fynd o gwmpas ac edrych ar yr holl ddarnau eraill o garreg debyg oedd yn dal yn y ddaear.

“‘Mae angen sicrhau ein bod ni’n eu casglu rhag ofn eu bod nhw’n ffitio gyda’i gilydd.’

“Mae hon yn ddelwedd bropaganda nodweddiadol iawn y byddai’r fyddin Rufeinig yn ei defnyddio i ddangos beth sy’n digwydd i chi ar ôl i chi gael eich trechu.

“Rydyn ni wedi canolbwyntio’n aml ar yr holl bethau gwych a wnaeth Rhufain i ni, ond fe wnaeth Rhufain lawer o bethau llai gwych i bobl eraill.

“Mae’n ein helpu ni i adrodd ochr arall y stori o safbwynt y boblogaeth frodorol, am y tro cyntaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.