Ymgyrch er cof am fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd San Steffan
Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae tad myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe a wnaeth ladd ei hun wedi dweud ei fod yn ei ddagrau wrth fynd â’r ymgyrch er cof am ei ferch i Senedd San Steffan.
Roedd Georgina Owen, 21, o Saffron Walden yn Essex, i fod i ddychwelyd i’r brifysgol, lle y bu’n astudio daearyddiaeth ers 2017, yn 2019, ond cafodd ei darganfod yn ei chartref gyda nodyn.
Clywodd cwest ym mis Mai ei fod yn bosib bod diffyg fitamin penodol yn ei deiet wedi bod yn rhannol gyfrifol am ei phenderfyniad i’w lladd ei hun.
Roedd Georgina Owen, 21, o Saffron Walden, Essex, wedi dilyn deiet fegan ers 2016 “o ganlyniad i’w phryderon amgylcheddol”, meddai’r crwner.
“Bu farw Miss Owen o ganlyniad i rwymo’r gwddf tra, ar bwysau tebygolrwydd, yn dioddef o rithdybiau a achoswyd gan ddiffyg fitamin B12 a ddatblygodd o ganlyniad uniongyrchol i’w deiet fegan,” meddai.
Fe wnaeth ei theulu ymweld â Senedd San Steffan yr wythnos diwethaf i alw am newid.
Mae ei thad, Julian Owen, bellach wedi sefydlu tudalen ddielw o’r enw Club 12 i rybuddio eraill am beryglon diffyg B12.
“Roedden ni mewn dagrau ar y trên ond mae’n teimlo’n iawn; mae’n teimlo fel y dylen ni wneud hyn os gallwn ni adael hynny’n waddol,” meddai.
“Roedd mam a ysgrifennodd ata i rai blynyddoedd yn ôl a dweud ‘Fe wnaeth stori eich merch wneud i mi fynd â fy merch i gael ei harchwilio. Roedd hi’n cael rhithdybiau ac fe wnaeth hi wella gyda B12.’
“Fe ysgrifennodd hi ata i a dweud ‘Fe wnaeth [rhannu] eich stori achub bywyd fy merch’. Mae hynny’n bwerus.”
‘Neges’
Mae fitamin B12 i’w gael mewn cig, pysgod, wyau a chynnyrch llaeth.
Mae’r GIG yn argymell y dylai pobl sy’n dewis deiet sy’n seiliedig ar blanhigion anelu at fwyta bwydydd wedi’u hatgyfnerthu’n rheolaidd, neu gymryd atchwanegiad B12, i osgoi diffyg.
Ychwanegodd Mr Owen nad oedd canllawiau ar fitamin B12, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn 2024, wedi’u gweithredu’n genedlaethol.
Roedd yn gobeithio y byddai siarad ag ASau yn newid hynny.
“Gobeithio y gallwn ni ddechrau cael y bobl sydd â dylanwad i eistedd gyda’i gilydd a gweithio allan sut i ddarparu gwasanaeth cenedlaethol,” meddai.
Mae Pippa Heylings, AS De Swydd Gaergrawnt, wedi cefnogi’r ymgyrch.
“Mae sefyllfaoedd yma y mae modd eu hosgoi, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y llywodraeth yn cyfleu’r neges honno,” meddai. “Mae pethau y gallwn ni eu gwneud.
“Mae’n rhaid i ni gael pawb o amgylch y bwrdd i sicrhau bod y canllawiau’n cael eu gweithredu.”
Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.