Apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol ym Mro Morgannwg

Ffordd y Porthladd, Y Barri

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ffordd angheuol ar Ffordd y Porthladd ger Y Barri ym Mro Morgannwg fore dydd Gwener.

Bu farw dyn 46 oed a oedd yn gyrru Range Rover yn dilyn y gwrthdrawiad gyda bws ychydig cyn  07:00.

Y dyn 46 oed a fu farw oedd yr unig berson oedd yn teithio yn y Range Rover.

Dywedodd yr heddlu fod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Ni chafodd gyrrwr y bws, oedd yr unig berson yn y cerbyd hwnnw, anafiadau difrifol.

Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ar y gweill ac mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.