Apêl am gymorth i gludo dyn o Wynedd sydd mewn coma adref i Gymru

Bruce Brown

Mae teulu dyn sydd yn wreiddiol o Fangor yng Ngwynedd wedi apelio am gymorth ariannol i'w gludo yn ôl i Gymru, ar ôl iddo gael ei daro yn wael yng Ngwlad Groeg.

Mae Bruce Brown bellach yn byw yn Nhwrci, ond roedd yn ymweld â Gwlad Groeg pan gafodd haint ar ei glust sydd wedi arwain iddo ddisgyn i goma.

Mae ei wyres Emma Stringer wedi apelio am gymorth yn ystod "cyfnod hynod o anodd ac annisgwyl i'r teulu", gan ychwanegu fod Mr Brown yn "ymladd am ei fywyd" ar hyn o bryd.

Gobaith y teulu yw codi £20,000 ar gyfer costau meddygol gan nad yw yswiriant Mr Brown yn weithredol yn Nhwrci.

"Roedd Bruce yn ymweld â Gwlad Groeg ar daith undydd tra roedd yn byw yn Nhwrci pan ddigwyddodd hyn. 

"Yn anffodus, gan ei fod yng Ngwlad Groeg yn hytrach na Thwrci, ni fydd ei yswiriant iechyd o Dwrci yn talu am ei driniaeth feddygol. 

"Mae hyn yn golygu bod ein teulu bellach yn wynebu’r realiti dinistriol o orfod talu am ei ofal meddygol ein hunain - gan gynnwys triniaeth yn yr ysbyty, meddyginiaeth, gofal dwys, a’r ambiwlans awyr sydd ei angen i sicrhau ei fod yn cael y gofal y mae ei angen arno."

Ychwanegodd Ms Stringer yn ei hapêl fod Mr Brown yn "un o’r dynion mwyaf caredig, cariadus a gofalgar y gallech byth eu cyfarfod." 

"Mae’n berson a fyddai’n gwneud unrhyw beth dros unrhyw un, heb ddisgwyl dim yn ôl. Mae’n golygu cymaint i’n teulu, ac mae’n dorcalonnus ei weld yn y sefyllfa hon.

"Rydym yn gobeithio codi arian i helpu i dalu’r costau meddygol sy’n cynyddu, ac i roi pob cyfle posibl i Bruce gael y driniaeth a’r gofal sydd eu hangen arno.

"Rydym yn deall bod cyfnodau’n anodd i bawb, ac rydym yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniad, boed yn fawr neu’n fach."

Diolchodd Emma Stringer i bawb am eu cymorth "yn ystod y cyfnod anhygoel o anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.