Apêl am gymorth i fachgen bach o Abertawe sydd â dementia

Tate

Mae mam i fachgen bach o Abertawe sydd â chyflwr iechyd prin yn apelio am gymorth i'w anfon i America am driniaeth.

Hyd yma mae Tammy McDaid wedi llwyddo i godi £70,000 ar ran ei mab Tate, sydd yn bump oed ac yn dioddef o gyflwr Syndrom Sanfilippo Math A.

Mae'n gyflwr marwol sydd yn cael ei ddisgrifio fel 'dementia plentyndod' gan rai.

Wrth apelio am gymorth ar ei thudalen codi arian ar y we, dywedodd Tammy McDaid: " Os ydych chi’n adnabod Tate, rydych chi’n gwybod bod ei wên ddireidus yn goleuo pob ystafell. 

"Ers y diwrnod cyntaf, mae wedi bod yn blentyn hapus a bodlon iawn - yn rhedeg, yn dringo ac yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed drwy’r amser. 

"Pan oedd yn 2 oed, cafodd Tate ddiagnosis o awtistiaeth. Roeddwn i bob amser yn teimlo bod mwy yn digwydd. 

"Yn anffodus, ar ôl blynyddoedd o chwilio am atebion, rydym yn ddiweddar wedi derbyn y diagnosis torcalonnus o Syndrom Sanfilippo Math A - cyflwr genetig prin a marwol, a elwir yn aml yn ddementia plentyndod".

Colli sgiliau

Ychwanegodd fod plant sydd gyda'r cyflwr Sanfilippo yn colli’r holl sgiliau maen nhw wedi eu dysgu'n raddol, gan gynnwys cerdded, bwyta, ac yn y pen draw y gallu i symud. 

"Nid yw Tate erioed wedi dweud gair, ac nawr rwy’n gwybod na fyddaf byth yn clywed ei lais", meddai. 

"Mae hynny’n dorcalon na allaf bron â’i ddisgrifio mewn geiriau".

Dywedodd fod ei mab yn parhau i ddatblygu, gan ddysgu pethau newydd a mwynhau bywyd "yn ei ffordd anturus ei hun".

Therapi genynnau

Esboniodd fod disgwyl i driniaeth therapi genynnau UX111 gael ei gymeradwyo yn yr UDA erbyn mis Medi eleni.

"Mae’r plant sydd wedi cael y driniaeth hon drwy dreialon yn dangos llawer llai o ddirywiad o gymharu â’r plant sydd heb ei gael.

"Roedd pen-blwydd Tate yn 5 oed yn achlysur o lawenydd a thristwch. Gall llawer newid o fewn y flwyddyn nesaf, a dyna pam ei bod hi’n hanfodol codi ymwybyddiaeth", ychwanegodd.

Pwysleisiodd nad oes gwellhad llwyr i fod, ond y gallai'r driniaeth hanfodol ar gyfer Tate wneud newid mawr i'w fywyd.

Gobaith Tammy McDaid yw casglu £1.5m ar gyfer triniaeth Tate.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.