Anthony Slaughter yn creu hanes i'r Blaid Werdd drwy gael ei ethol i'r Senedd

Anthony Slaughter.

Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi creu hanes drwy gipio sedd gyntaf y blaid yn Senedd Cymru.

Cafodd Anthony Slaughter ei ethol yn etholaeth Caerdydd Penarth bnawn dydd Gwener - y cyntaf o'i blaid i gael ei ethol i wleidyddiaeth rheng flaen yng Nghymru erioed.

Mae’r Blaid Werdd wedi gweld cynnydd sydyn mewn cefnogaeth ers i Zack Polanski gymryd yr awenau fel arweinydd y llynedd.

Cafodd Anthony Slaughter ei eni yn Kingston upon Hull yn Sir Efrog yn 1962, cyn i'w deulu ymfudo i Awstralia.

Daeth y teulu yn ôl i Brydain yn ddiweddarach o ganlyniad i hiraeth.

Symudodd Mr Slaughter i fyw i Benarth, Bro Morgannwg ar ddechrau'r mileniwm, gan ymuno â'r Blaid Werdd yn 2010.

Mae wedi gweithio fel dylunydd gerddi yn y gorffennol ac mae wedi bod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth leol ym Mhenarth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.