Plaid Cymru'n creu hanes drwy ennill etholiad Senedd Cymru 2026
Mae Plaid Cymru wedi creu hanes drwy ennill Etholiad Senedd Cymru 2026, ac fe fydd yn llywodraethu am y tro cyntaf erioed.
Dyma oedd canlyniad gorau y blaid mewn unrhyw etholiad erioed, gan sicrhau cefnogaeth eang drwy Gymru, gan gynnwys mewn ardaloedd sydd yn draddodiadol y tu allan i'w chadarnleoedd.
Mae'r blaid wedi ennill 43 o seddi, gan olygu mai hi yw'r blaid fwyaf, ond nid yw wedi sicrhau mwyafrif sef 49 o seddi.
Fe gafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd gyda naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith sedd, y Blaid Werdd â dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio un sedd.
Mewn araith yn dilyn y canlyniad olaf, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae pobl Cymru wedi dewis gobaith. Mae nhw wedi dewis hyder.
Dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru fod y blaid fwyaf yn Senedd Cymru ers dechrau datganoli ym 1999.
Mae angen 49 sedd ar gyfer mwyafrif mewn Senedd o 96 o seddi, ac mae gan Blaid Cymru 43 o seddi.
Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r blaid chwilio am gefnogaeth plaid arall er mwyn cyrraedd y 49 sedd sydd eu hangen i lywodraethu.
Fe allai Plaid Cymru lywodraethu fel plaid leiafrifol ond fe fydde hynny'n dod â'i heriau ei hun wrth geisio gwthio mesurau drwy'r Senedd.
Mae'r canlyniad yn golygu mai'r disgwyl yw mai Rhun ap Iorwerth fydd prif weinidog nesaf Cymru.
Mae’r Prif Weinidog yn cael ei ddewis gan Aelodau ar ôl yr etholiad, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan bleidleiswyr.
Mae’r Senedd yn dweud bod rhaid dewis Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod i’r etholiad - erbyn dechrau mis Mehefin 2026 - neu fe fydd yna etholiad arall.
Rhagor i ddilyn.