'Annibyniaeth ddim yn ystyriaeth yn yr etholiad yma' meddai'r Gwyrddion
'Annibyniaeth ddim yn ystyriaeth yn yr etholiad yma' meddai'r Gwyrddion
Dyw annibyniaeth ddim yn ystyriaeth yn etholiad y Senedd ar Fai 7, meddai’r Gwyrddion.
Mae’r Blaid Werdd yn cefnogi annibyniaeth yn swyddogol, ond dywedodd eu dirprwy arweinydd, Phil Davies, nad oedd angen i bleidleiswyr feddwl am hynny eleni.
Daw ei sylwadau wrth i’w blaid gynnal digwyddiad ymgyrchu yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
“Rydyn ni’n agored am ein cefnogaeth i annibyniaeth, ond nid yw’n ystyriaeth yn yr etholiad yma,” meddai.
“Mae Plaid Cymru a ni wedi dweud nad ydyn ni’n mynd i gynnal refferendwm o fewn y pedair blynedd nesaf.
“Felly nid dyna beth mae pobl yn pleidleisio arno yn yr etholiad hwn.
“Mae pobl yn pleidleisio i geisio gwneud eu bywydau’n well, a dyna beth rydym yn ei addo.
“Rydym yn addo y bydd y MSau Gwyrdd sy’n cael eu hethol ym mis Mai, mewn gwirionedd, yn dwyn Plaid i gyfrif i wneud bywydau pobl yn well, cyflwyno rheolau rhent, cenedlaetholi Dŵr Cymru, a’r nifer fawr o bolisïau eraill sydd gennym i wneud bywydau pobl yn well.
“Ac rydyn ni’n canolbwyntio ar bethau y gallwn eu gwneud.
“Dydyn ni ddim am ddamcaniaethau am y dyfodol, ond yn meddwl am bethau y gallwn eu gwneud nawr, ar unwaith, i wneud bywydau pobl yn well yn yr argyfwng costau byw hwn sy’n effeithio’n fawr ar bobl yng Nghymru.”
Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Anthony Slaughter, hefyd na fydden nhw am weld refferendwm o fewn y pedair blynedd nesaf.
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod y blaid o blaid annibyniaeth i Gymru ac “wedi bod felly ers sawl mlynedd bellach - mae ein polisïau wedi cael eu creu gan aelodau ac roedd hyn yn benderfyniad amlwg gan aelodau".
“Ond yn sicr ddim yn y pedair blynedd nesaf.”
‘Cydweithredu’
Wrth i nifer yr aelodau yn Senedd Cymru gynyddu o 60 i 96 o fis Mai ymlaen, ynghyd â system newydd gyfrannol o bleidleisio, mae'r Gwyrddion yn gobeithio sicrhau cynrychiolaeth am y tro cyntaf erioed yn Senedd Cymru.
Ar ôl eu buddugoliaeth yn is-etholiad Gorton and Denton ym mis Chwefror, mae'r blaid yn ceisio sicrhau cynrychiolaeth yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Wrth siarad â Newyddion S4C o'r gynhadledd, dywedodd arweinydd y blaid, Zack Polanski, y gall "bawb bleidleisio i'r blaid maen nhw eisiau, yn gwybod bod Llafur wedi gorffen, ac yn debygol, mai Plaid [Cymru] fydd y blaid fwyaf”.
“Felly y cwestiwn yw, pwy ydych chi eisiau gweld yn y Senedd yn dal Plaid i gyfrif? Ac mae mwy a mwy o bobl yn dweud, y Blaid Werdd,” meddai.
Yn ôl y blaid, mae eu haelodaeth wedi treblu mewn wyth mis, gyda 8,000 o aelodau yng Nghymru bellach.
Wrth drafod cydweithio gyda Plaid Cymru, dywedodd Anthony Slaughter mai "beth dwi'n dweud ydy ein bod yn blaid sydd yn credu mewn cydweithrediad”.
Wrth sôn am bolisïau'r blaid, dywedodd eu bod yn mynd y tu hwnt i bolisïau gwyrdd, gan ddweud bod yna "lu o bolisïau a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i wneud bywydau pobl yng Nghymru yn well”.
"Rydyn ni'n gweithio ar yr union fanylion achos bod ein maniffesto yn cael ei ryddhau mewn rhai wythnosau, ond pethau megis cyfiawnder cymdeithasol fydd un peth fydd yn bendant ar y bwrdd,” meddai.
