Andy Burnham yn tyngu llw fel AS newydd ar ôl i Starmer gyhoeddi ei ymddiswyddiad

Andy Burnham yn tyngu llw fel AS newydd ar ôl i Starmer gyhoeddi ei ymddiswyddiad

Mae Andy Burnham wedi tyngu llw fel AS Makerfield, oriau ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i'w swydd fel arweinydd y Blaid Lafur.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU gydnabod ei fod wedi colli cefnogaeth ei Aelodau Seneddol, ac addawodd y byddai'n sicrhau "trosglwyddiad trefnus o rym" i'w olynydd mewn datganiad emosiynol y tu allan i 10 Downing Street fore Llun.

Daeth y cyhoeddiad ychydig oriau cyn i Mr Burnham gyrraedd San Steffan ar ôl iddo ennill isetholiad Makerfield yr wythnos ddiwethaf.

Erbyn hyn mae'n ymddangos yn fwyfwy tebygol y bydd cyn Faer Manceinion yn cael ei gadarnhau'n arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i'w brif wrthwynebydd, y cyn Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting, ddatgan ei gefnogaeth iddo.

Os mai Mr Burnham fydd yr unig ymgeisydd i sicrhau'r nifer angenrheidiol o enwebiadau i sefyll yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid, gallai ddod yn Brif Weinidog y DU erbyn canol mis Gorffennaf.

Dywedodd Mr Burnham fod ymddiswyddiad Syr Keir yn "nodi dechrau cyfnod pontio".

"Mae'r mudiad Llafur wastad wedi bod ar ei gryfaf pan fydd yn edrych ymlaen gyda hyder a phwrpas," meddai.

"Dyna fyddwn ni'n ei wneud nawr, a byddwn yn sicrhau bod y cyfnod pontio hwn yn broses gadarnhaol o adnewyddu i'n plaid ac i'n gwlad."

'Sicrhau newid'

Fe ymddiswyddodd Mr Streeting o'r Cabinet mewn protest yn erbyn arweinyddiaeth Syr Keir, ac roedd wedi awgrymu y byddai'n barod i sbarduno cystadleuaeth i'w ddisodli pe na bai'n ymddiswyddo o'i wirfodd.

Dywedodd ei fod wedi siarad â Mr Burnham "yn fanwl", ac wedi dod i'r casgliad y gallai "ennill brwydr ein hoes yn erbyn grymoedd cenedlaetholdeb".

Ychwanegodd: "Gallwn dreulio'r haf yn gorliwio mân wahaniaethau, neu gallwn fynd ati i'w helpu i sicrhau'r newid sydd ei angen ar ein plaid ac ar ein gwlad."

Daeth datganiad Syr Keir ar ôl iddo dreulio'r penwythnos yn ystyried ei ddyfodol gyda'i deulu yn Chequers, cartref gwledig swyddogol y Prif Weinidog.

Er nad oedd ei benderfyniad yn glir yn gynnar fore Llun, ymgasglodd cyd-weinidogion a oedd yn gefnogol iddo, ynghyd â staff Rhif 10 Downing Street, ychydig cyn 9.30 y bore, gan awgrymu bod Syr Keir ar fin cyhoeddi ei ymddiswyddiad.

Wrth siarad y tu allan i 10 Downing Street, dywedodd Syr Keir: "Y cwestiwn mae fy mhlaid yn ei ofyn bellach yw os mai fi yw'r person gorau i'n harwain ni i'r etholiad cyffredinol nesaf. 

"Dwi wedi clywed ateb fy mhlaid wleidyddol i'r cwestiwn yna, a dwi'n ei dderbyn.

"Mae pob penderfyniad rydw i wedi’i wneud wedi bod ynglŷn â rhoi’r wlad rydw i’n ei charu yn gyntaf.

"Dyna pam y byddaf i yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur."

Dywedodd Syr Keir y byddai'n gofyn i Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol y Blaid Lafur bennu amserlen a fyddai'n sicrhau bod arweinydd newydd yn ei le erbyn i'r Senedd ddychwelyd ar ôl toriad yr haf ar 1 Medi.

Ond gallai arweinydd newydd gael ei gadarnhau cyn hynny, gan fod yr enwebiadau'n cau ar 16 Gorffennaf.

Mae gan ddarpar ymgeiswyr tan hynny i sicrhau cefnogaeth o leiaf 81 o ASau Llafur.

Os mai Mr Burnham fydd yr unig ymgeisydd i gyrraedd y trothwy hwnnw, bydd yn dod yn arweinydd heb bleidlais gan aelodau'r blaid, ac mae'n debygol o ddod yn Brif Weinidog ar 17 neu 18 Gorffennaf.

Mae penderfyniad Syr Keir i ymddiswyddo yn golygu y bydd y DU yn cael ei seithfed Prif Weinidog mewn 10 mlynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.