Andy Burnham i drafod Iran ac AI wrth gwrdd â Trump am y tro cyntaf yn Efrog Newydd

Andy Burnham a'i wraig Marie-France Van Heel  (PA)

Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, yn dweud ei fod yn “ymddiried” yn Donald Trump wrth iddo deithio i Efrog Newydd i gynnal ei gyfarfod cyntaf ag Arlywydd America.

Bydd Burnham yn cwrdd â Trump am drafodaethau cyn annerch Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UN) yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Mae disgwyl y bydd y rhyfel yn Iran ac AI ymhlith y materion a fydd yn cael eu trafod rhwng penaethiaid y ddwy wlad.

Daw hynny ar ôl i Burnham awdurdodi ymgyrch filwrol amddiffynnol gan awyrlu Prydain i ddarparu tanwydd i awyrennau milwrol Saudi Arabia, fel rhan o'u hymateb i ymosodiadau â thaflegrau gan grŵp milwrol y Houthis.

Mae cydweithrediad wedi bod yn ddiweddar hefyd rhwng Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU a Llywodraeth yr Unol Daleithiau dros greu dronau a systemau Deallusrwydd Artiffisial (AI) y dyfodol.

Dywedodd Mr Burnham wrth ohebwyr fod y “berthynas arbennig” rhwng y ddwy wlad mor gryf ag erioed.

“Pan rwyt ti’n dod i’r swydd hon, rwyt ti’n sylweddoli dyfnder y berthynas.

“Rydym yn ymddiried yn ein cynghreiriad. Wrth gwrs ein bod ni.

Pan ofynnwyd a oedd yn ymddiried yn Mr Trump yn bersonol, atebodd y Prif Weinidog: “Ydw.”

Daw wedi i Mr Trump ddweud yn gyhoeddus y byddai “wrth ei fodd” yn gweld Iwerddon unedig, mewn ymweliad â'r wlad yn gynharach y mis hwn.

Mae Mr Burnham wedi bod yn feirniadol o Arlywydd Trump yn y gorffennol. 

Yn sgil y terfysg yn y Capitol yn Washington DC yn 2021, dywedodd Mr Burnham y dylai “unrhyw wleidydd o’r DU sydd yn rhoi unrhyw sylw i Trump nawr deimlo cywilydd.”

Yn ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae disgwyl i Mr Burnham ddweud nad yw’r wlad “ar i lawr” gan dynnu llinell o dan ddegawd o anawsterau yn dilyn Brexit.

Dywedodd wrth ohebwyr: “Mae’r cynllun i Brydain yn canolbwyntio ar ‘beth yw ein cyfeiriad dros y 10 mlynedd nesaf a sut ydym yn gwneud bywyd yn fwy fforddiadwy i’n pobl'.

“Dwi’n clywed llawer yn dweud bod y wlad ar i lawr – ni yw’r wlad sy’n tyfu cyflymaf yn y G7, mae yna lawer i ymfalchïo ynddo, mae yna lot o bethau sy’n iawn gyda’r wlad a dw i’n bwriadu rhoi neges bositif pan fyddaf yn siarad.”

Llun: Andy Burnham a'i wraig Marie-France Van Heel (PA)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.