Andy Burnham yn awgrymu datganoli maerol i Gymru a'r Alban

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Kinnock ac y Prif Weinidog Andy Burnham
Stephen Kinnock ac Andy Burnham

Dylai Cymru a'r Alban ystyried ffyrdd i gryfhau datganoli drwy ddilyn model Lloegr - sy'n rhoi mwy o bwerau i ddinasoedd a rhanbarthau, meddai'r Prif Weinidog Andy Burnham.

Ymwelodd Mr Burnham â de Cymru i gyfarfod gweithwyr a phrentisiaid gyda'r nod o gryfhau'r cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig.

Yn siarad ym Mhort Talbot fe ddywedodd Mr Burnham y bydd yn trafod y syniad o ledaenu pwerau o fewn Cymru a'r Alban ymhellach pan fydd yn dod â phenaethiaid llywodraethau datganoledig y DU ynghyd yng Nghymru ym mis Hydref:

Dywedodd Andy Burnham:"Efallai bod dadl i'w chael ynghylch cryfhau datganoli, fel bod rhagor o bwerau i'w cael yn ninasoedd a rhanbarthau Cymru, gogledd Cymru'n gweithio fwy gyda'r gogledd-orllewin, neu ganolbarth Cymru yn fwy â gorllewin canolbarth Lloegr, yn debyg i'r math o ddatganoli sy'n datblygu'n gyflym ledled Lloegr ar hyn o bryd.

"Dw i'n agored i drafodaethau gyda Llywodraeth Plaid Cymru yn y Senedd, ac rwyf wedi galw am gyfarfod Cyngor Economaidd Cenedlaethol gyda'r cenhedloedd datganoldeig ym mis Hydref i drafod yn union hynny."

Fe wynebodd Mr Burnham hefyd gwestiynau am alwadau Llywodraeth Cymru am ragor o bwerau datganoli Ystad y Goron, sy'n gweinyddu daliadau'r Frenhiniaeth, yn ogystal â'r gwelyau môr lle caiff ffermydd gwynt alltraeth eu lleoli.

Mae Llywodraeth newydd Cymru hefyd wedi gofyn i gydbwyso rhai pwerau gyda'r Alban.

Yn ystod ei ymweliad â thref ddur Port Talbot, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn "anfon arwydd cryf o gefnogaeth" ar gyfer ail-ddiwydiannu Cymru.

Yno fe addawodd hefyd i gyflawni'r ymrwymiad a wnaed gan y cyn-Brif Weinidog Syr Keir Starmer i wario £14 biliwn ar uwchraddio'r rheilffyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Burnham: "Daw twf pan fydd seilwaith dda - ond hebddo, yn aml rydych yn gwneud y dasg o dwf yn llawer anoddach.

"Mae paratoi Cymru at y dyfodol yn gofyn i gyflawni'r addewid hwnnw o £14 biliwn, a dyna a wneir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.