Andy Burnham yn addo datganoli grym o Lundain yn ei araith fawr gyntaf

Burnham

Mae Andy Burnham wedi cyflwyno ei agenda economaidd yn ei araith fawr gyntaf ers cyhoeddi y bydd yn sefyll ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Fe wnaeth cyn-faer Manceinion ddefnyddio'i araith yn y ddinas ddydd Llun i alw am ddatganoli grym ac adnoddau ariannol sylweddol o San Steffan.

Dywedodd y byddai'n sefydlu swyddfa 'Rhif 10 y Gogledd' petai'n ennill grym, gan lywio datganoli i ogledd Lloegr o Lundain:

“Gadewch i mi ddweud hyn yn uniongyrchol iawn: mae dyddiau Whitehall yn ymladd yn erbyn datganoli pŵer i’r rhanbarthau a’r cenhedloedd drosodd am byth.

“Bydd gofyn i Whitehall gyfan nawr gefnogi ein lleoedd a gweithio gyda nhw i wneud penderfyniadau cyflymach a mwy cydgysylltiedig.”

Addawodd Mr Burnham dynnu pobl ynghyd yn y “glymblaid ehangaf posibl” i adfywio gobaith ledled Prydain.

Dywedodd: “Pa obaith allwn ni ei gael y bydd yn wahanol y tro hwn? Dyna’r cwestiwn y byddwn i’n ei ofyn pe bawn i’n bleidleisiwr ar hyn o bryd."

"Dyma’r un (cwestiwn) rwyf am ei ateb mor glir ag y gallaf heddiw, a thrwy wneud hynny rhoi’r cyfeiriad newydd y mae’r wlad yn chwilio amdano ar ôl 10 mlynedd o gythrwfl gwleidyddol ers Brexit ac 20 mlynedd o safonau byw yn gostwng ers y cwymp ariannol yn 2008.”

Wrth ymateb i gynlluniau Mr Burnham, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru: "Ychydig iawn fydd ‘Rhif 10 y Gogledd’ yn ei olygu i bobl Cymru.

"Mae gan Gymru eisoes lywodraeth newydd sy'n rhoi ymdeimlad newydd o weithredu drosom ein hunain, ac yn cynnig posibilrwydd a gobaith i bobl ar flaenoriaethau - o dorri rhestrau aros, i gyflwyno gofal plant wedi'i ariannu'n llawn, i greu swyddi da.

"Waeth pwy sy'n arwain Llywodraeth y DU, byddaf yn gwneud yr un achos cadarnhaol mewn ffordd adeiladol – rhaid i Gymru gael o leiaf cyllid teg a chydraddoldeb pwerau gyda'r Alban, ac rwy’n edrych ymlaen at fwrw ymlaen gydag agenda parch sy'n gweithio'r ddwy ffordd."

'Cefn y ciw

Wrth ymateb i araith Mr Burnham, dywedodd Llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan, David Chadwick AS: "Mae Andy Burnham yn dweud ei fod eisiau cymryd pŵer allan o San Steffan, ond mae'n ymddangos bod cynlluniau heddiw yn gadael Cymru unwaith eto yng nghefn y ciw o'i gymharu â rhanbarthau Lloegr.

"Os gall Llafur ddod o hyd i'r uchelgais i ddatganoli pwerau ledled Lloegr, dylent gael yr uchelgais i roi'r un pwerau i Gymru â'r Alban."

'Mewn rhigol'

Ychwanegodd Andy Burnham, AS Makerfield, a roddodd y gorau i fod yn faer Manceinion er mwyn dychwelyd i San Steffan, yn ei araith ddydd Llun: “Nid yw San Steffan wedi bod yn gweithio i bobl ac nid yw wedi bod yn gweithio ers amser hir iawn. Mewn gwirionedd, mae wedi torri.

“Ac o ganlyniad, nid yw’r wlad lle y dylai fod. Mae wedi’i dal mewn rhigol, ac yn amlwg ni allwn barhau fel hyn.”

Mae Mr Burnham sydd wedi bod yn gefnogwr brwd dros ddatganoli hefyd wedi dweud wrth y BBC yr wythnos diwethaf y bydd yn "rhoi Cymru a'r Alban wrth wraidd unrhyw lywodraeth y mae'n ei rhedeg".

Mae ei agenda yn adlewyrchu'r safbwyntiau a nododd yn ei lyfr Head North. Fe ysgrifennodd y llyfr ar y cyd â'i gyd-faer Steve Rotheram.

Yn y llyfr, dywedodd Mr Burnham fod y drefn bresennol yn golygu bod arweinwyr rhanbarthol yn gorfod mynd "ar eu gliniau" at San Steffan, gan alw am "ddull mwy cytbwys, lle byddai cynghorau a meiri hefyd yn cael rhywfaint o'r grym".

Os bydd Mr Burnham yn parhau i fod yr unig ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth ei blaid, mae disgwyl iddo symud i mewn i Downing Street ymhen tair wythnos.

Bydd enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau ar 16 Gorffennaf. Os mai Mr Burnham yw'r unig ymgeisydd, bydd yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yn arweinydd y Blaid Lafur mewn cynhadledd arbennig y diwrnod canlynol.

Ond yn ôl y drefn arferol, ni fydd yn dod yn Brif Weinidog ar unwaith, gyda'r trosglwyddiad yn digwydd ar y diwrnod gwaith nesaf, sef 20 Gorffennaf.

Pwy fydd aelodau ei Gabinet?

Mae Mr Burnham yn parhau i ystyried pwy fydd yn aelodau o'i Gabinet os daw yn brif weinidog.

Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Rachel Reeves wedi derbyn na fydd yn parhau yn Ganghellor. 

Mae nifer o uwch weinidogion, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, a'r Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, ymhlith y rhai sy'n cael eu hystyried i'w holynu, yn ôl adroddiadau.

Ond mae rhai undebau llafur wedi annog Mr Burnham i beidio â phenodi Mr Miliband yn Ganghellor, gan eu bod yn credu bod ei bolisïau net sero yn niweidiol.

Mae cwestiynau hefyd yn parhau ynghylch a fydd Ms Mahmood yn aros yn y Swyddfa Gartref. 

Mae rhai o fewn y Blaid Lafur yn dweud y dylai Mr Burnham roi'r gorau i'w chynigion i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid i fewnfudwyr aros cyn gwneud cais am ganiatâd i aros yn y DU yn ddiamod.

Yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Dan Jarvis, yw aelod diweddaraf y Cabinet i ddatgan ei gefnogaeth yn gyhoeddus i Mr Burnham fel y Prif Weinidog nesaf.

Dywedodd Mr Jarvis, a oedd yn faer Rhanbarth Dinas Sheffield pan oedd Mr Burnham yn faer Manceinion, ei fod wedi "gweithio'n agos iawn" gydag e.

"Roedd yn faer eithriadol i Fanceinion ac rwy'n credu y bydd yn Brif Weinidog rhagorol," meddai.

"Mae'n deall pwysigrwydd diogelwch cenedlaethol a sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir i fuddsoddi yn ein lluoedd arfog." 

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.