Amy Dowden yn ddadorchuddio gwaith celf newydd yng Nghaerffili

Llun: Cowshed
Amy Dowden - Gwaith Celf Caerffili

Mae seren Strictly Come Dancing, Amy Dowden, wedi ychwelyd i’w thref enedigol, Caerffili, ddydd Sadwrn i ddadorchuddio gwaith celf newydd ym Mharc Dafydd Williams.

Mae Map Tirlun y Dref wedi’i greu o efydd gan yr artist Sebastien Boyesen.

Mae’r map yn cynnwys ffigurau bach sy’n cynrychioli hanes a diwylliant Caerffili, gan gynnwys ffigur sy’n cynrychioli Amy Dowden.

Mae enwau adnabyddus eraill o’r dref, gan gynnwys Aaron Ramsey a Tommy Cooper, hefyd wedi’u cynnwys yn y gwaith celf.

Dywedodd Amy Dowden: “Dwi wrth fy modd yn dod adref i Gaerffili, a dyna groeso hyfryd fydd hwn.

“Mae’n anrhydedd cael fy nghynnwys ar Fap Tirlun y Dref, ochr yn ochr ag unigolion diwylliannol a hanesyddol eraill fel Aaron Ramsey a Tommy Cooper.”

Cyn y seremoni, dywedodd Dowden ei bod hi'n arfer ymweld a'r parc ferch fach, a'i bod yn edrych ymlaen i weld y gwaith "sydd wedi'i wneud i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r dref am genedlaethau i ddod."

“Bydd gan Gaerffili le mor arbennig yn fy nghalon am byth.”

Image
Llun: Cowshed
Llun: Cowshed

'Penderfynol'

Mae’r parc wedi’i ddatblygu dros gyfnod o sawl mis, gyda goleuadau stryd gwell, offer chwarae newydd a mannau eistedd newydd.

Mae'r diwrnod hefyd yn nodi lansiad llwybr Hynt a Hanes Gwnaed yng Nghaerffili, sef taith rithwir o amgylch y dref sy’n defnyddio cymeriadau o orffennol a phresennol Caerffili.

Mae ffenestri siopau hefyd yn cael eu haddurno i gynrychioli cymeriadau enwog y dref, gydag wyneb Amy Dowden yn cael lle blaenllaw yn siop flodau Nicola Downie.

Dywedodd Nicola Downie: “Dwi mor gyffrous i fod yn rhan o lwybr Hynt a Hanes Caerffili. Mae'n ffordd wych o ddathlu Caerffili a'r hyn sydd gyda ni i'w gynnig, a hefyd i wella golwg a theimlad y dref ar gyfer ein cwsmeriaid rheolaidd ac ymwelwyr.”

Ychwanegodd: “Pan ffeindiais i allan taw Amy Dowden oedd un o'r cymeriadau dan sylw, ro’n i'n benderfynol taw hi fyddai’r wyneb yn fy siop i.

“Dwi wedi cynllunio trefniant blodau arbennig i groesawu Amy adref.”

Roedd disgyblion ysgol ddawns Shappelle, yr ysgol yr aeth Amy Dowden iddi pan oedd hi’n blentyn, hefyd yn perfformio yn ystod y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.