Aelodau’r Senedd i gael codiad cyflog o dros £3,000 ar ôl yr etholiad

Aelodau o'r Senedd

Bydd Aelodau’r Senedd yn cael codiad cyflog o o leiaf £3,000 ar ôl yr etholiad ar 7 Mai.

Fe fydd yn golygu eu bod nhw wedi gweld cynnydd o £12,000 ers dechrau y Senedd ddiwethaf yn 2021.

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi cyhoeddi ei benderfyniad terfynol ar gyflogau tymor nesaf y Senedd.

Bydd cyflog sylfaenol Aelodau’r Senedd yn nhymor 2026/27 yn codi i £79,817 — cynnydd o £12,168 ers 2020/21.

Bydd aelodau sy’n gwneud swydd ychwanegol o fewn y llywodraeth neu’r Senedd hefyd yn derbyn swm ar ben eu cyflog sylfaenol.

Y Prif Weinidog fydd yn derbyn y cyflog ychwanegol uchaf, sef £94,783 ar ben y cyflog sylfaenol, gan ddod â chyfanswm ei gyflog neu ei chyflog i £174,600 ar gyfer tymor y Seithfed Senedd.

Mae hynny’n gynnydd o fwy na £25,000 ers 2020/21.

Bydd y Llywydd hefyd yn derbyn cyflog ychwanegol. Ar gyfer 2026/27, bydd hyn yn £51,132, gan ddod â chyfanswm ei gyflog neu ei chyflog i £130,949.

Bydd gweinidogion y llywodraeth, dirprwy weinidogion, y Cwnsler Cyffredinol, y Dirprwy Lywydd, comisiynwyr y Senedd, cadeiryddion pwyllgorau, aelodau’r Pwyllgor Busnes ac arweinwyr grwpiau hefyd yn derbyn cyflog ychwanegol.

Dim ond un cyflog am swydd ychwanegol y bydd Aelod o’r Senedd sydd ag mwy nag un swydd ychwanegol o fewn y llywodraeth neu y Senedd yn ei dderbyn - a hwnnw fydd y cyflog uchaf o’r rolau hynny.

'Atebolrwydd'

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol mai ei nod oedd sicrhau bod gan aelodau a’u staff “y tâl a’r cymorth cywir i fodloni gofynion Senedd sy’n newid”.

“Mae aelodau’n chwarae rhan hanfodol yn ein democratiaeth ac rydym yn darparu costau staffio a busnes fel eu bod yn gallu gwneud eu gwaith o ddwyn y llywodraeth i gyfrif, gwneud deddfau Cymru, cytuno ar drethi Cymru ac ymgysylltu â’u hetholwyr a’u cynrychioli,” meddai.

“Mae’r penderfyniad yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen i ymateb i anghenion y Senedd yn y dyfodol, ynghyd â mesurau diogelu cymesur a strwythurau clir i sicrhau bod y system yn parhau’n dryloyw, yn gadarn ac yn gynaliadwy.

“Mae ein penderfyniadau’n ceisio cynnal atebolrwydd a chynrychioli gwerth am arian i’r trethdalwr, yng nghyd-destun amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.