Aelod o Kneecap ddim i wynebu achos terfysgaeth
Ni fydd aelod o'r grŵp Kneecap yn wynebu achos terfysgaeth ar ôl i'r Uchel Lys wrthod apêl gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn erbyn y penderfyniad i ollwng yr achos.
Cafodd Liam Og O hAnnaidh, sy'n perfformio o dan yr enw Mo Chara, ei gyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd 2024.
Daeth y cyhuddiad wedi ymchwiliad gan yr heddlu i gig y grŵp yn yr O2 Forum yng ngogledd Llundain pan afaelodd O hAnnaidh ym maner y mudiad.
Ond cafodd yr achos ei ollwng ym mis Medi'r llynedd, gyda'r prif ynad Paul Goldspring yn dyfarnu bod yr achos wedi'i "gychwyn yn anghyfreithlon".
Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron apelio yn erbyn y penderfyniad yn yr Uchel Lys mewn gwrandawiad ym mis Ionawr.
Ddydd Mercher, fe wnaeth dau farnwr yn yr Uchel Lys gadarnhau'r penderfyniad a gwrthod apêl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Roedd y Barnwr Goldspring wedi cytuno â chyfreithwyr O hAnnaidh fod angen i erlynwyr geisio caniatâd y Twrnai Cyffredinol i gyhuddo'r rapiwr cyn rhoi gwybodd iddo ar 21 Mai y byddai'n cael ei gyhuddo o drosedd terfysgaeth.
Nid oedd yr achos wedi ei gychwyn yn y ffordd gywir gan nad oedd caniatâd angenrheidiol gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a'r Twrnai Cyffredinol o fewn y terfyn amser statudol o chwe mis, meddai.
Dywedodd yr Arglwydd Ustus Edis ddydd Mercher fod y barnwr yn gywir i ddweud nad oedd ganddo'r awdurdod cyfreithiol i glywed yr achos.
"Nid yw’r ymatebydd wedi cael ei roi ar brawf am ei ymddygiad honedig ar 21 Medi 2025 ac ni fydd yn cael ei roi ar brawf," meddai.
"Nid yw wedi ei gael yn euog, ac nid yw wedi’i ryddhau’n ddieuog."
'Ni fyddaf yn dawel'
Yn dilyn y penderfyniad, dywedodd O hAnnaidh mewn datganiad a gafodd ei ddarparu drwy ei gyfreithwyr: "Byddaf yn fythol ddiolchgar i fy nhîm cyfreithiol, na adawodd unrhyw garreg heb ei throi i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei gynnal.
"Nid oedd y broses hon erioed amdanaf i, erioed am unrhyw fygythiad i’r cyhoedd ac erioed am ‘derfysgaeth’, gair sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Prydain i ddifrïo pobl rydych yn eu gormesu yn Iwerddon ac ar draws y byd.
"Roedd bob amser yn ymwneud â Phalesteina ac am yr hyn sy’n digwydd os ydych chi'n meiddio codi eich llais. Am yr hyn sy’n digwydd os allwch gyrraedd grwpiau mawr o bobl a datgelu eu rhagrith.
"Ni fyddaf yn dawel. Ni fydd Kneecap yn dawel."
Llun: PA