Adroddiad yn taflu goleuni ar drafferthion gorwario cynllun amddiffyn arfordir Aberaeron

gwaith harbwr Aberaeron o'r pier 19/4/26

Mae adroddiad gan Gyngor Ceredigion wedi taflu goleuni ar drafferthion cynllun i amddiffyn arfordir Aberaeron - cynllun arweiniodd at £4m o orwariant yn y pen draw.

Ym mis Awst y llynedd fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu maint y gorwario ar y cynllun, ac mae adroddiad diweddar i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus y cyngor yn manylu ar beth yn union aeth o'i le.

Yn ôl yr adroddiad 'Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron', cynyddodd costau adeiladu cyffredinol y cynllun o £29.988m i £33.937m, a hynny yn bennaf "oherwydd newidiadau angenrheidiol yn ystod y gwaith adeiladu" gan gynnwys "amodau annisgwyl yn y tir, cyfyngiadau trydydd parti a datblygiad y dyluniad".

Pwll Cam

Mae'r adroddiad yn esbonio mai'r harbwr mewnol yn Aberaeron, sef ardal Pwll Cam, oedd pwysau cost mwyaf y cynllun, a hynny "yn bennaf oherwydd rhwystrau annisgwyl o dan y ddaear ac amodau’r ddaear".

Roedd hyn wedi arwain at "ddatblygu dyluniad pellach a newid y gwaith parhaol, gan arwain at oedi".

"Roedd materion yn ymwneud â waliau trydydd parti a waliau ar y cyd yn effeithio ar fynediad a dilyniant, gan gyfrannu at yr oedi a chostau ychwanegol" hefyd yn ôl y ddogfen.

Aiff yn ei flaen i ychwanegu fod "nifer fach o faterion i'w datrys ar ôl cwblhau, gan gynnwys traeth/graean yn symud, gofynion cynnal a chadw yn sianel yr harbwr a materion yn weddill ynglŷn â waliau ar y cyd.

"Mae'r rhain yn cael eu rheoli trwy drefniadau llywodraethu a rheoli risg y prosiect. At ei gilydd, ystyrir bod amcanion y buddsoddiad, a nodwyd yn yr achos busnes cymeradwy, wedi cael eu cyflawni ynghyd â manteision ehangach i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr".

'Digwyddiadau iawndal'

Wrth droi at y ffordd yr oedd y trafferthion costau yn cael ei hariannu, dywed yr adroddiad:

"Mae’r contract NEC (Contract Peirianneg Newydd) wedi'i reoli drwy Ddigwyddiadau Iawndal. 

"Mae hwn yn fecanwaith sy'n caniatáu newidiadau i gost y prosiect, y dyddiad cwblhau, neu ddyddiadau allweddol, fel arfer pan fydd digwyddiadau annisgwyl yn codi sydd ddim yn fai ar y contractwr ac sy’n helpu i reoli risg, sicrhau taliad teg, a diweddaru'r amserlen heb droi at anghydfodau cyfreithiol".

Roedd 176 o Ddigwyddiadau Iawndal yn ystod y gwaith o gwblhau'r cynllun, gyda phedwar o'r rhain yn werth dros £500k (cyfanswm o £4.591m).

Er yr heriau, mae'r adroddiad yn pwysleisio manteision hirdymor y cynllun, gan ddweud ei fod yn "darparu dyluniad 1 mewn 200 mlynedd ar gyfer tonnau’n gorlifo dros y top, a safon amddiffyn 1 mewn 1,000 o flynyddoedd rhag lefelau eithafol y môr dros oes ddylunio'r cynllun (100 mlynedd). 

"Mae hyn yn golygu bod Aberaeron bellach wedi'i ddiogelu tan 2121 rhag tonnau 1 mewn 200 mlynedd a digwyddiad 1 mewn 1,000 o flynyddoedd yn achos lefel y môr. 

"Mae'r cynllun bellach wedi lleihau'r perygl o lifogydd i oddeutu 168 o adeiladau preswyl ac amhreswyl yn Aberaeron".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.