Adaregwyr yn heidio i Gaernarfon i weld aderyn prin

Llun gan Mike King
Aderyn prin yng Nghaernarfon gan Mike King

Mae adaregwyr ar draws y DU wedi heidio i dref yng Ngwynedd dros y penwythnos i weld aderyn prin.

Fe ddaeth degau o bobl i Gaernarfon i weld a chofnodi’r crëyr riff gorllewinol (western reef heron) wrth y Cei Llechi.

Y gred yw mai dyma’r tro cyntaf i'r aderyn gael ei weld yn y DU.

Fel arfer cynefin yr aderyn yw ardaloedd arfordirol yn Ne Ewrop, Affrica a rhannau o Asia.

Fe fydd pwyllgor arbenigol yn dilysu a chadarnhau os mai dyma’r tro cyntaf i’r aderyn gael ei weld yn y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.